Plas Kynaston cog

Patrymau

Templedi hanesyddol i cadw’r gamlas yn gweithio. Mae’r patrwm hwn yn adrodd hanes coll y gamlas. Dyma’r unig dystiolaeth sydd ar ôl am graen oedd yn gweithio ar gangen Plas Kynaston o’r gamlas. Roedd y Gwaith Olew yn rhan o waith cemegol Graesser ond ym 1896 roedd y craen yn eiddo i Gwmni’r Shropshire Union Canal ac yn cael ei gynnal ganddyn nhw.

Disgrifiad

Llefydd gwaith yw camlesi yn eu hanfod. Cânt eu defnyddio bob dydd ac maen nhw’n wynebu pob tywydd. Caiff y strwythurau eu taro, eu rhwbio a’u gwisgo gan gychod a cherddwyr sy’n mynd heibio, ac maen nhw’n treulio o gael eu defnyddio’n ddyddiol. Mae hyn yn effeithio ar y gamlas ac mae angen rhannau newydd weithiau.

Llunnir patrymau er mwyn gwneud yn siŵr fod y darnau newydd sydd wedi eu gwneud o haearn bwrw, yr un siâp a maint yn union. Siapiau pren yw’r patrymau ac maen nhw wedi eu cerfio i edrych fel y gwrthrych haearn sydd eu hangen. Maen nhw’n cael eu gwasgu mewn blychau o gymysgedd tywod arbennig ac yna eu tynnu i adael lle gwag yn yr un siâp. Caiff haearn tawdd ei dywallt i’r siâp er mwyn creu’r gwrthrych sydd ei angen.

Gellir defnyddio patrymau dro ar ôl tro, a cheir yr un canlyniad. Golygai hyn y gellid defnyddio haearn bwrw er mwyn masgynhyrchu. Caiff haearn bwrw ei weithio o fariau gan ofaint ac fel arfer, mae’n cymryd mwy o amser, ond mae’n ddefnyddiol at rai dibenion.

Mae patrymau’n ddefnyddiol iawn ar gyfer cynhyrchu darnau newydd mewn peirianwaith. Y darnau sy’n symud sydd fwyaf tebygol o wisgo a gellir gwneud darn sy’n cyfateb yn union drwy ddefnyddio’r patrwm. Defnyddiwyd patrymau eraill ar gyfer castio eitemau cyffredin ar hyd glannau’r gamlas, fel pyst angori, rhwyfau llifddorau a darnau’r giatiau clo.

Mae’r ffilm yma’n dangos gwahanol gamau creu mowld o batrwm, tywallt yr haearn a gorffen y gwrthrych, mewn ffowndri yn Durham, Lloegr.

Mwy O Wybodaeth Am Patrymau

Er mwyn gwneud cast, rhoddir y patrwm mewn blwch pren a elwir yn fflasg. Bydd cymysgedd arbennig o dywod llaith a chlai yn cael ei wasgu o amgylch y patrwm a’i lenwi’n gadarn. Mae’r clai yn y tywod yn golygu y gall gadw ei siâp o amgylch y patrwm i greu’r mowld.

Llenwi fflasg Filling flask
Llenwi fflasg: Trwy garedigrwydd TOPP and Co Ltd

Caiff y fflasg ei throi drosodd a thynnir y patrwm, gan adael ei ôl yn y tywod. Caiff arwyneb y mowld ei chwistrellu gydag olew ac yna ei losgi i ffwrdd. Mae hyn yn creu wyneb gwydrog iddo gan roi gorffeniad llyfr i’r cast.

Chwistrellu mowld Spraying mould
Chwistrellu mowld: Trwy garedigrwydd TOPP and Co Ltd

Er mwyn creu siâp y gwrthrych yn gyflawn, rhoddir dau fowld at ei gilydd. Fe’u gelwir yn gopa a drag. Gwneir twll siâp twmffat o’r enw cwpan yn y lle gwag a grëir yn y mowld. Dyma ble bydd yr haearn tawdd yn cael ei dywallt.

Copa a drag  Mating cope and drag
Copa a drag : Trwy garedigrwydd TOPP and Co Ltd

Caiff yr haearn ei gynhesu i 1204 gradd Celsius (2200 gradd Fahrenheit) a’i dywallt o lwy i’r mowld. Pan fydd yr haearn wedi oeri a throi’n solid, torrir y tywod oddi wrtho. Caiff darnau dros ben o fetel ar y gwrthrych, a elwir yn sbriwiau, eu torri i ffwrdd gyda llif neu eu ffeilio.

Tywallt haearn Pouring iron
Tywallt haearn: Trwy garedigrwydd TOPP and Co Ltd

Mae dau batrwm ar gyfer rhannau tal y rheiliau ar Ddydfrbont Pontcysyllte, er na fedrwch chi weld y gwahaniaeth wrth edrych arnyn nhw ar hyd ymyl y gamlas. Mae gan bob trydydd postyn droed sy’n mynd yn sownd o dan wely’r llwybr tynnu. Mae’r ddau bostyn wedyn yn ffitio i dyllau ar ymyl y cafn.

Rheiliau Pontcysyllte Pontcysyllte railing
Rheiliau Pontcysyllte ©Andrew Deathe

Oherwydd yr amodau llaith yn Nhwnnel y Waun fe rydodd y pyst oedd yn dal y canllaw. Doedden nhw ddim yn ddiogel a chawsant eu cyfnewid yn 2003. Crëwyd patrwm newydd o’r cynllun gwreiddiol a chafodd pob mowld ei stampio gyda dyddiad, sydd i’w weld yn amlwg ar y pyst newydd.

Rheiliau twnnel Y Waun Chirk Tunnel railing
Rheiliau twnnel Y Waun ©Andrew Deathe

Mae’r gofaint yn gweithio gyda haearn bwrw; yn creu cyfarpar, offer ac eitemau addurniadol allan o fariau a rhodenni metel, ar ôl eu cynhesu a’u curo i siâp. Mae’r gofaint yn iard gynnal a chadw Ellesmere yn dal i ddefnyddio’r efail a adeiladwyd yno yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er ei fod yn gweithio’n annibynnol bellach, mae’n dal i gynhyrchu peth gwaith metel i’r gamlas.

Gof Ellesmere blacksmith
Gof Ellesmere ©Stewart Mackellar

Cafodd y platiau sy’n creu cafn Dyfrbont Pontcysyllte eu gwneud o haearn bwrw ond roedd y pinnau a’r bolltau sy’n eu cysylltu wedi eu gwneud o haearn gyr. Pan adeiladwyd y ddyfrbont, cai bolltau eu gwneud â llaw ac nid peiriant. Pan oedd angen newid bolltau yn ystod gwaith adnewyddu 2005, cai’r rhai newydd eu gwneud â llaw hefyd.

Boltiau gwreiddiol Pontcysyllte Pontcysyllte original bolts
Boltiau gwreiddiol Pontcysyllte ©Andrew Deathe

Oherwydd gwahaniaethau bychan mewn gwrthrychau sydd wedi eu gwneud a llaw, nid oes dau o’r un maint yn union, er eu bod yn dilyn yr un cynllun. Caiff y patrymau eu marcio gyda’r lleoliad ble cânt eu defnyddio, oherwydd efallai na fydden nhw’n ffitio ar wrthrych tebyg ar ran arall o’r gamlas.

Patrwm esgyd Pont Godi  Lift Bridge shoe pattern
Patrwm esgyd Pont Godi ©Andrew Deathe

Mae Storfa Batrymau yn iard gynnal a chadw Ellesmere yn cynnwys dros 1200 o wahanol batrymau ar gyfer darnau o gamlesi Llangollen, Trefaldwyn a’r Shropshire Union Mainline. Mae’r hynaf yn dyddio o 1869. Gwnaed rhai eraill mor ddiweddar â’r ganrif hon yn lle’r rhai sydd wedi gwisgo neu wedi mynd ar goll.

Storfa Ellesmere store
Storfa Ellesmere ©Fiona Gale

Mae nifer o’r patrymau yn Ellesmere ar gyfer cocos neu’r cocos gyrru. Olwynion danheddog ydy’r rhain ac maen nhw’n rheoli cyflymder ac yn trosglwyddo symudiad mewn peiriannau. Oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio’n aml ac yn rhwbio yn erbyn darnau eraill, maen nhw’n gwisgo ac angen rhai newydd. Defnyddir y patrymau yn aml ar gyfer cocos gyrru mewn craeniau glanfa.

Offer yn storfa Ellesmere Gears at Ellesmere store
Offer yn storfa Ellesmere ©Fiona Gale

Defnyddiwyd craeniau mewn sawl glanfa ar hyd y gamlas. Fe’u defnyddiwyd i lwytho a dadlwytho nwyddau mawr a thrwm o gychod. Fel arfer, codwyd y craeniau hyn gyda winsh llaw, ond roedd injan stêm yn gyrru rhai ohonynt. Mae’r rhan fwyaf o’r craeniau wedi eu datgymalu a’u cadw yng Nglanfa Llangollen ac Ellesmere.

Craen Llangollen Crane
Craen Llangollen ©Andrew Deathe

Er bod y rhan fwyaf o’r patrymau yn storfa Ellesmere yn fychan ac wedi eu cadw ar silffoedd, mae rhai yn enfawr. Mae’n nhw’n cynnwys fframiau ar gyfer clo rhwyfau ac olwynion injan, yn ogystal â thrawstiau craen, sy’n gallu pwyso sawl tunnell mewn haearn bwrw.

Storfa Ellesmere, patrymau mawr Ellesmere store, large patterns
Storfa Ellesmere, patrymau mawr ©Andrew Deathe

Yn ogystal â chael eu defnyddio ar gyfer trwsio camlesi, mae’r patrymau yn gasgliad hanesyddol. Rhwng Rhagfyr 2017 a Medi 2018, treuliodd gwirfoddolwyr 800 o oriau yn eu catalogio’n ofalus. Gwiriwyd pob patrwm, eu rhifo a thynnu eu llun. Tynnodd y gwirfoddolwyr dros 2,000 o luniau ac ychwanegu tua 1,500 o gofnodion i gronfa ddata Amgueddfa Genedlaethol y Dyfrffyrdd.

Gwirfoddolwyr storfa patrymau Pattern store volunteers
Gwirfoddolwyr storfa patrymau ©Kate Lynch