Chain Bridge

Y Bont Gadwyn

Y bont gadwyn hynaf yn y byd sy'n dal i sefyll.

Disgrifiad

Mae’r Bont Gadwyn yn croesi’r Afon Dyfrdwy yn Llandysilio, gan gysylltu gwaith Telford ar y gamlas gyda’i ffordd i Gaergybi. Cafodd ei hadeiladu gan Exuperius Pickering Senior ym 1817. Roedd eisiau mynediad ei hun i’r gamlas i gludo glo, calchfaen a barrau haearn i’r gorllewin heb dalu’r tollau yn Llangollen.

Adeiladwyd pont Pickering o gadwyni haearn gyr, i gynnal dec pren wedi’i orchuddio â phridd. Roedd yn edrych yn simsan ond roedd yn ddigon cryf i gynnal wagenni trwm.

Safodd y bont gyntaf am bron i 60 o flynyddoedd ond roedd mewn cyflwr gwael erbyn 1870. Cafodd ei hailadeiladu ym 1876 gan Henry Robertson, peiriannydd y rheilffordd ar hyd yr afon. Roedd Robertson yn gallu defnyddio’r cadwyni gwreiddiol o dan dec ei bont.

Ym 1928 chwalwyd y bont gan lifogydd eto. Y flwyddyn ganlynol cafodd ei hailadeiladu fel pont grog gan Syr Henry Robertson, mab y cyn adeiladwr a pherchennog Gwaith Haearn Brymbo ger Wrecsam. Ailddefnyddiwyd y cadwyni gwreiddiol eto, y tro hwn fel crog uwch ben y dec.

Dirywiodd y drydedd bont ac fe’i chaewyd ym 1984. Pan ei hadferwyd a’i hailagor yn 2015, defnyddiwyd y cadwyni gwreiddiol eto. Y rhain yw’r cadwyni pont hynaf yn y byd sydd yn dal i fod mewn defnydd.

Gwnaed y ffilm yn 2015 ar gyfer y prosiect adfer. Mae Harry Edwards o Shemec Ltd yn siarad am ailddefnyddio hen gadwyni, a gwneud rhannau newydd i gymryd lle y rhai sydd wedi cyrydu. Mae’r ffilm hefyd yn adrodd hanes y bont. Cliciwch yma i weld y fideo.

Mwy O Wybodaeth Am Y Bont Gadwyn

Roedd Exuperius Pickering Senior yn byw ym Mhlas Kynaston, tŷ yng Nghefn Mawr. Roedd yn berchennog ffowndri yng Nghefnbychan, ac mae’n debyg mai dyma lle gwnaed y cadwyni ar gyfer y bont. Roedd Pickering yn defnyddio’r gamlas i gludo glo o’i byllau glo yn Acrefair a chalch o’i odynau yn Nhŷ Craig.

Picture of Plas Kynaston, home of Exuperius Pickering
Llun o Plas Kynaston, cartref Exuperius Pickering ©National Buildings Record Collection – G. B. Mason

Gwnaed cynlluniau manwl y Bont Gadwyn wreiddiol gan Joseph-Michel Dutens, peiriannydd Ffrengig. Weithiau cyfeirir at Dutens fel ‘ysbïwr diwydiannol’ ond cafodd ei gyflwyno i nifer o beirianwyr enwog gan Lywodraeth Prydain. Fe hefyd oedd syrfëwr Camlas Llangollen.

Dutens Plans
Dutens Plans O’r casgliadau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: ©National Buildings Record Collection – G. B. Mason

Adeiladwyd y Bridge Inn ar gyfer gweithwyr Pickering. Wrth i’r bont ddod yn boblogaidd gyda thwristiaeth fe ddisodlwyd y Bridge Inn gyda Gwesty’r Chain Bridge. Mae’r lluniau hyn yn dangos y ddau adeilad, ym 1860 ac oddeutu 1870. Adeiladwyd darn mwyaf y gwesty modern ar ôl 1965.

First Bridge, first hotel
Pont Gyntaf, gwesty cyntaf ©Amgueddfa Llangollen

 

First Bridge, second hotel
Pont Gyntaf, ail westy ©Amgueddfa Llangollen

Adeiladodd Pickering y Bont Gadwyn i gysylltu’r gamlas gyda ffordd newydd Telford o Lundain i Gaergybi. Hon oedd y brif ffordd ar gyfer gohebiaeth i ac o Iwerddon. Mae’r ffordd yn croesi o ogledd orllewin Cymru i Ynys Môn ar bont grog fwy, Pont Menai.

Llun o Bont Menai Etching of Menai Bridge
Llun o Bont Menai: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Henry Robertson oedd Prif Beiriannydd y rheilffordd sy’n mynd drwy orsaf Berwyn. Gellir cyrraedd yr orsaf o’r gamlas ar hyd y Bont Gadwyn. Ef hefyd adeiladodd Traphont y Waun, ochr yn ochr â dyfrbont y gamlas. Henry adeiladodd yr ail Bont Gadwyn a’i fab, oedd yn byw yn Neuadd Llandysilio, adeiladodd y drydedd.

Llun o Henry Robertson Portrait of Henry Robertson
Llun o Henry Robertson: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Chwalwyd yr ail Bont Gadwyn gan lifogydd ym 1928. Mae’r llun yn dangos bod y cadwyni wedi aros yn gadarn, ond diflannodd y dec yn y dŵr.

Llifogydd 1928 flood
Llifogydd 1928 ©Amgueddfa Llangollen

Pan ailadeiladwyd y bont am y drydedd tro, defnyddiwyd yr hen gadwyni fel crog uwchben y dec. Gellir gweld bod y dyluniad cryfach wedi gwrthsefyll llifogydd ym 1964.

Llifogydd 1964 flood
Llifogydd 1964 ©Amgueddfa Llangollen

Roedd y drydedd Bont Gadwyn wedi dirywio erbyn 1984 ac fe’i chaewyd i’r cyhoedd. Bu dros 30 mlynedd cyn ei hadnewyddu a’i hailagor. Defnyddiwyd nifer o’r cadwyni gwreiddiol, bron i 200 mlynedd ar ôl iddynt gynnal y bont gyntaf.

Pont adfeiliedig Dilapidated bridge
Pont adfeiliedig ©Chain Bridge Project