Llechi

Wagon from Moel y Faen quarry
Yn cysylltu’r chwareli â’r byd. Wagen dramffordd o chwarel Moel Faen.

Cerflun

Trevor Hand
Darnau celf i’w gweld ar hyd y gamlas. Gellir gweld llaw fawr ar ben llwybr tynnu’r ddyfrbont, sy’n ddau fetr o uchder. Mae wedi ei cherfio o galchfaen gan Anthony Lysycia. Mae’r llaw’n cynrychioli’r gweithwyr niferus a fu’n gweithio i adeiladu’r ddyfrbont, a gweddill y gamlas, heb beiriannau modern i’w helpu.

Tywodfaen

Platform scaffold holes in aqueduct
Carreg leol yn cynnal y nant yn yr awyr. Mae’r pileri tywodfaen talaf sy’n cynnal cafn haearn Dyfrbont Pontcysyllte dros yr afon Dyfrdwy yn mesur dros 38 metr (126 troedfedd).

Paentiadau

"Classic" view - George Arnald
Dal harddwch y gamlas ar gynfas. Mae’r paentiad olew hwn o 1826 gan George Arnald yn dangos Dyfrbont Pontcysyllte fel y caiff ei ddarlunio amlaf. Mae’n edrych tua’r dwyrain, dros yr hen bont, Pont Cysylltau, dros Afon Dyfrdwy. Mae’r dirwedd y tu hwnt i’r ddyfrbont yn fwy aneglur, i bwysleisio’r adeiledd, sydd wedi ei oleuo gan yr haul sy’n isel fin nos.

Patrymau

Plas Kynaston cog
Templedi hanesyddol i cadw’r gamlas yn gweithio. Mae’r patrwm hwn yn adrodd hanes coll y gamlas. Dyma’r unig dystiolaeth sydd ar ôl am graen oedd yn gweithio ar gangen Plas Kynaston o’r gamlas. Roedd y Gwaith Olew yn rhan o waith cemegol Graesser ond ym 1896 roedd y craen yn eiddo i Gwmni’r Shropshire Union Canal ac yn cael ei gynnal ganddyn nhw.

Twristiaeth

Tourists at the wharf
Gweld y golygfeydd, ar y gamlas ac o’i hamgylch.

Tirfesur

1795 survey map for Llangollen Canal
Cynllunio a chreu llwybr drwy’r tirlun.

Winsh

Windlass
Yr allwedd i fywyd syml ar y gamlas. Mae’r agoriad yn offeryn hanfodol i ddefnyddwyr cychod a staff cynnal a chadw’r gamlas. Mae’n far metel siâp L gyda soced ar un pen. Mae’r rhoden o biniwn y llifddor yn ffitio yn y soced. Mae’r agoriad wedyn yn cael ei weindio i agor a chau’r llifddor.

Haearn

Iron Bridge Llangollen Canal
Defnyddiodd Telford haearn bwrw a wnaed ger y gamlas ar gyfer y dyfrbontydd yn y Waun a Phontcysyllte, mewn pontydd dros y gamlas, fel pont Rhos-y-Coed yn Nhrefor, ac mewn strwythurau ledled Prydain.

Ceffylau

'Saturn' on Llangollen Canal
Y grym gyrru ar y llwybr halio.