Shovel of coal

Glo

Y pŵer y tu ôl i’r Chwyldro Diwydiannol.

Disgrifiad

Glo oedd ffynhonnell pŵer ar gyfer peiriannau stêm, a yrrodd y Chwyldro Diwydiannol ar draws Prydain. Roedd cyflenwad da iawn ym maes glo Sir Ddinbych, ond roedd y cysylltiadau cludiant yn wael. Byddai llwybr gwreiddiol y gamlas o Gaer i Drefor wedi cysylltu’r prif ardaloedd mwyngloddio yn Rhiwabon, Brymbo, Gresffordd a’r Bers gyda diwydiannau oedd yn tyfu.

Serch hynny, rhoddwyd y gorau i’r cynllun hwn, ac yn hytrach mae’r gamlas yn teithio drwy ymyl ddeheuol y maes glo ac i mewn i Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn.

Yn bennaf roedd cychod y gamlas yn cyflenwi diwydiannau lleol – odynau calch, gweithfeydd brics a gweithfeydd haearn. Yn y trefi a’r pentrefi ar hyd y ffordd, daeth glo yn elfen bwysig ar gyfer gwresogi domestig a choginio.

Yn ystod agoriad swyddogol Dyfrbont Pontcysyllte, fe groesodd dau gwch glo gwag i gael eu llenwi ym Masn Trefor. Roeddynt yn symbol o sut y gallai’r gamlas symud adnodd economaidd pwysig. Er i gludiant y rheilffordd ddod i ddisodli camlesi yn rhy gyflym, parhaodd masnach ar y gamlas i gynyddu wrth i Brydain ddiwydiannu. Symudwyd cannoedd o filoedd o dunelli o lo ar rhwydwaith y gamlas gan gadw prisiau’n isel.

Erbyn yr ugeinfed ganrif fodd bynnag, roedd masnach yn lleihau. Daeth masnach cychod glo Camlas Undeb Swydd Amwythig i ben yn 1921. Mae’r cofnod olaf o lwyth glo ar y gamlas o Lofa Parc Du yn 1933.

Mae’r ffilm yma’n dangos cychod glo Ilford ac Aquarius, system ‘cwch a butty’ traddodiadol oedd yn cael ei ddefnyddio ar gamlesi mwy yn Lloegr. Mae’r ‘gwch’ wedi’i bweru ac mae’n tynnu’r ‘butty’ y tu ôl iddo. Gan ddefnyddio’r system yma, fe allai criw o bedwar redeg dau gwch ar yr un pryd a symud mwy nwyddau.

Mwy O Wybodaeth Am Glo

Roedd y pyllau glo cynharaf yn fach. Dim ond ychydig o weithwyr oedd yn gweithio ynddynt ac nid oeddynt yn ddwfn iawn. Mae’r engrafiad yma o ben pwll yn Acrefair yn dangos y pen pwll syml oedd yn gostwng glowyr i mewn ac yn codi’r glo allan. Cafodd ei argraffu yn 1794, cyn i’r gwaith ddechrau ar y gamlas.

Tomen gynnar yn Acrefair Early pit at Acrefair
Tomen gynnar yn Acrefair: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Parc Du ger Y Waun, oedd y lofa hynaf yn Sir Ddinbych. Cafodd ei fwyngloddio gyntaf yn gynnar yn y 1600au. Cafodd ei brydlesu gan Thomas Ward, perchennog glofeydd yng Nghefn Mawr yn 1805, yn benodol i fanteisio ar gysylltiad y gamlas. Fe gaeodd yn 1949 a does bron dim byd ar ôl o’r pwll uwchben y ddaear.

Arwydd coffa modern Pwll Glo Parc Du Black Park Colliery modern memorial sign
Arwydd coffa modern Pwll Glo Parc Du ©Andrew Deathe

Roedd Glofa Parc Du dros filltir o’r gamlas. Roedd tramffordd gyda cheffyl yn llusgo’r glo i’r doc ger y Waun. Roedd cychod fel hon ym 1910 yn mynd i mewn i’r doc o dan bont ar y llwybr llusgo, sydd i’w weld ar y dde. Mae’r bont wedi ei dymchwel ers hynny a’r doc wedi ei lenwi.

Mynedfa i Bwll Glo Parc Du 1910 Black Park Collery entrance 1910
Mynedfa i Bwll Glo Parc Du 1910: CRT Archive – BW192/3/2/5/2/12 Cyflenwyd gan Canal & River Trust

Ym Masn Trefor, cafodd Camlas Plas Kynaston (i’w weld ar y dde) ei ymestyn gan Thomas Ward ddiwedd 1820au er mwyn cyrraedd pyllau Cefn Mawr. Serch hynny, roedd y mwyafrif o lofeydd lleol yn cysylltu gyda’r gamlas drwy Reilffordd Ruabon Brook. Daeth y rheilffordd i ben yn y lanfa sydd i’w weld ar y chwith yma.

Sbardun ar gyfer rheilffordd Brook Rhiwabon Brook a Chamlas Plas Kynaston Spurs for Ruabon Brook railway and Plas Kynaston Canal
Sbardun ar gyfer rheilffordd Brook Rhiwabon Brook a Chamlas Plas Kynaston ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Defnyddiwyd glanfeydd y gamlas i lwytho’r cychod. Llithrennau neu sleidiau yw’r rhain ac roedd y glo yn cael eu tywallt o’r wagenni. Yna roedd yn rhaid i berchennog y gwch roi trefn ar y glo. Roedd hyn yn golygu ei lefelu yn gytbwys ar draws y cwch fel nad oedd pwyso ar un ochr.

Bad camlas yn llwytho glo Barge loading with coal
Bad camlas yn llwytho glo: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 197.4.1.1.63

Roedd mwyngloddio yn waith peryglus iawn. Dim ond 17% o farwolaethau mwyngloddio oedd yn digwydd mewn damweiniau mawr, fel yr un yng Ngresffordd a laddodd 266 o bobl. Roedd digwyddiadau unigol yn llawer mwy cyffredin. Mae’r garreg fedd hon yn un o nifer ar gyfer glowyr a laddwyd yn y gwaith sydd ym mynwent Eglwys y Waun. Roedd Glofa Brynkinalt yn y pentref.

Carreg fedd glowr a laddwyd ym Mrynkinallt Gravestone of miner killed in Brynkinallt
Carreg fedd glöwr a laddwyd ym Mrynkinallt ©Andrew Deathe

Roedd merched a phlant mor ifanc â 5 mlwydd oed yn cael eu cyflogi mewn pyllau glo ger y gamlas tan 1843 hefyd. Yn 1841 dywedodd Thomas Ward, perchennog y lofa, ei fod yn gwrthwynebu addysg ymysg ‘y rhai statws is’ gan nad oedd yn ymwybodol o unrhyw beth da oedd yn deilio o addysgu ysgrifennu a rhifyddeg iddynt.

Woman and children in mine
Dynes a phlant yn y pwll glo

Roedd pyllau glo yn cynhyrchu sgil-gynhyrchion gwastraff oedd yn cael eu cloddio allan o’r pwll. Yn aml roedd clai yn cael ei ailddefnyddio mewn gweithfeydd brics. Daeth Robert F. Graesser, Cemegydd Diwydiannol o’r Almaen, i Gefn Mawr yn 1860au gan bod siâl yn cael ei gloddio yng Nglofa Plas Kynaston. Fe gloddiodd olew paraffin a chwyr ohono, gan sefydlu Gweithfeydd Cemegol Plaskynaston yn 1867.

Hysbyseb ar gyfer gwaith Cemegion Graesser Advert for Graesser Chemical works
Hysbyseb ar gyfer gwaith Cemegion Graesser

Mae pyllau glo yn ymestyn yn llawer pellach o dan y ddaear nag maent uwchben y ddaear. Roedd Glofa Brynkinalt yn Y Waun. Dros amser, daeth y pyllau yn siafftiau awyru ar gyfer Glofa Ifton. Roeddynt bron i ddwy filltir ar wahân uwchben y ddaear, ond roeddynt wedi’u cysylltu o dan y ddaear.

Tomen Brynkinalt pit
Tomen Brynkinalt ©Lister

Roedd glanfeydd glofa bob amser yn llefydd prysur a budr. Roedd glofeydd yn gweithredu bob awr o’r dydd, ac roedd hi’n cymryd tua pedair awr i lenwi pâr o gychod. Dyma Lofa Hednesford, Swydd Stafford tua 1920.

Badau camlas ym mhwll glo Barges yn Hednesford Barges at Hednesford colliery
Badau camlas ym mhwll glo Barges yn Hednesford: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.2..2.69

Fe gaeodd Glofa’r Bers, y pwll glo dwfn olaf yn Sir Ddinbych, rhwng Y Waun a Wrecsam yn 1986. Er ei fod yn rhy bell ffwrdd i fanteisio ar ei gysylltiadau cludiant, mae’r Bers yn cynrychioli’r diwydiant enfawr a ddarparodd yr ysgogiad i adeiladu’r gamlas. Mae’r domen wastraff enfawr yn dirnod lleol nad oes modd ei fethu.

Tomen y Bers Bersham tip
Tomen y Bers ©John Haynes