"Classic" view - George Arnald

Paentiadau

Dal harddwch y gamlas ar gynfas. Mae’r paentiad olew hwn o 1826 gan George Arnald yn dangos Dyfrbont Pontcysyllte fel y caiff ei ddarlunio amlaf. Mae’n edrych tua’r dwyrain, dros yr hen bont, Pont Cysylltau, dros Afon Dyfrdwy. Mae’r dirwedd y tu hwnt i’r ddyfrbont yn fwy aneglur, i bwysleisio’r adeiledd, sydd wedi ei oleuo gan yr haul sy’n isel fin nos.

Disgrifiad

Bron cyn gynted ag y dechreuodd y gwaith o adeiladu’r gamlas, roedd arlunwyr ac awduron yn cofnodi graddfa fawr y prosiectau peirianyddol.

O’r Galedryd, lle daw’r gamlas nawr yn Safle Treftadaeth y Byd, mae’r dirwedd yn newid o wastatir agored de Swydd Caer a gogledd Swydd Amwythig i’r bryniau a’r dyffrynnoedd o amgylch afonydd Ceiriog a’r Ddyfrdwy. Roedd y rhain eisoes yn lleoedd poblogaidd ar gyfer ymwelwyr ac roedd adeiladu henebion mawr y gamlas yn cael ei groesawu’n gyffredinol fel rhywbeth a oedd yn hybu’r golygfeydd yn hytrach na’u difetha.

Fe wnaeth arlunwyr proffesiynol ac amatur ddarluniau manwl o’r safleoedd, yn arbennig y dyfrbontydd yn y Waun a Phontcysyllte. Weithiau roeddent yn gwneud brasluniau personol ar eu cyfer eu hunain, weithiau roeddent yn darlunio’r hyn roedd sylwedyddion eraill wedi ei ysgrifennu. Roedd rhai arlunwyr yn cynhyrchu paentiadau olew llawn o’r adeileddau wrth i enwogrwydd yr adeiladwaith ledaenu. Roedd eraill yn eu cynnwys yn y tirluniau ehangach yr oeddent yn eu paentio, lle’r oedd y dyfrbontydd yn cael eu hystyried fel rhan o’r olygfa yn unig.

Fe all paentiadau, lluniau ac ysgythriadau o’r dyfrbontydd ddweud llawer wrthym am sut roedd pobl yn ystyried y byd o’u cwmpas. Nid dim ond gwrthrychau ynddynt eu hunain oedd y dyfrbontydd ond symbolau o gyflawniad dynol, sydd mewn cytgord â natur ond yn ei ddofi hefyd.

Celfyddyd stryd

Mae’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wedi bod yn cynnal digwyddiadau celfyddyd stryd i fywiogi rhai o’r ardaloedd trefol y mae eu dyfrffyrdd yn rhedeg trwyddynt. Mae’r camlesi yn parhau i ysbrydoli artistiaid newydd ac arddulliau newydd ar ôl bron i 250 mlynedd. Cliciwch yma i weld y fideo.

Mwy O Wybodaeth Am Paentiadau

Roedd tirwedd gogledd Cymru yn denu arlunwyr o ganlyniad i’w harddwch rhamantaidd. Fe baentiodd Richard Wilson (1714–1782) yr olygfa hon yn 1769, sy’n edrych tua’r gorllewin o Wynnstay ger Y Waun, i Ddyffryn Llangollen. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, fe fyddai Dyfrbont Pontcysyllte yn croesi canol yr olygfa hon. Mae’r mwg o’r odynau calch yn Froncysyllte yn dangos lle byddai’r gamlas yn cael ei hadeiladu.

Tirlun rhamantus - Richard Wilson
Tirlun rhamantus – Richard Wilson ©Yale Center for British Art

Yn 1799 fe welodd Richard Colt-Hoare Ddyfrbont Y Waun yn cael ei hadeiladu. Ysgrifennodd fod ei “chyflwr anorffenedig presennol yn ei gwneud efallai yn fwy deniadol i lygad yr arlunydd”. Fe wnaeth frasluniau o’r safle, fel y gwnaeth J.M.W. Turner. Fe frasluniodd eraill Ddyfrbont Pontcysyllte, gan gynnwys y Parch. John Breedon, sy’n dangos y platfformau pren yr oedd yr adeiladwyr yn gweithio arnynt yn eglur.

Dyfrbont yn cael ei hadeiladu Aqueduct under construction
Dyfrbont yn cael ei hadeiladu: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Adeiladwyd tŵr Nant y Belan yn 1800 ar gyfer golygfeydd o ystâd Wynnstay a Dyffryn Dyfrdwy tra roedd Dyfrbont Pontcysyllte hefyd yn cael ei hadeiladu. Mae lluniau o deulu Williams-Wynn a gwesteion ar y teras yn dangos sut roedd y ddyfrbont wedi ei derbyn yn gyflym fel rhan o’r dirwedd ddeniadol.

Golygfa o dŵr Wynnstay View from Wynnstay Tower
Golygfa o dŵr Wynnstay: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn yr olygfa fwyaf cyffredin, drwy edrych tua’r dwyrain, mae Dyfrbont Pontcysyllte yn dal, main a manwl. Mae’r hen bont yn isel, wedi ei hadeiladu yn drwm ac yn afreolaidd. Mae’r bont yn y tu blaen ond mae wastad yng nghysgod ei chymydog mwy newydd. Mae lluniau, fel yr argraffiad Ffrengig hwn o 1821, yn defnyddio’r gymhariaeth i hybu rhinweddau’r ddyfrbont.

Cymharu gyda’r hen bont – ysgythriad Ffrengig Comparison with old bridge - French engraving
Cymharu gyda’r hen bont – ysgythriad Ffrengig: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Nid y gamlas oedd yr adeiladwaith mawr cyntaf yn y dirwedd. Mae’r golygfeydd tua’r gorllewin yn aml yn dangos cestyll Dinas Brân neu’r Waun ar y bryniau y tu ôl i’r dyfrbontydd. Mae paentiad John Ingleby o Ddyfrbont y Waun yn gorliwio maint y bryniau i bwysleisio’r anawsterau yr oedd rhaid i adeiladwyr yr adeileddau eu goresgyn.

Golygfa orllewinol Ingleby o ddyfrbont y Waun Ingleby's westward view of Chirk Aqueduct
Golygfa orllewinol Ingleby o Ddyfrbont y Waun: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Nododd nifer o sylwedyddion cynnar fod y gamlas yn gweddu’n dda i gefn gwlad, rhywbeth y mae ymwelwyr yn parhau i’w fwynhau heddiw. Dangosodd arlunwyr hyn drwy gynnwys delweddau gwledig llawn stereoteipiau ochr yn ochr â’u disgrifiadau. Roedd anifeiliaid, pobl yn gorffwys mewn caeau a dynion yn pysgota yn yr afon yn cael eu cynnwys yn aml ac maent i gyd yn yr ysgythriad hwn gan William Havell.

Manylion ysgythriad Havell Detail of Havell engraving
Manylion ysgythriad Havell ©Wellcome Collection. Public Domain Mark

Roedd arlunwyr yn aml yn cynnwys portread ohonynt eu hunain neu arlunydd arall yn y lluniau o’r dirwedd. Roedd hyn nid yn unig yn clodfori hwy eu hunain, roedd yn awgrym gweledol i’r gwyliwr fod yr olygfa yr oeddent yn edrych arno yn deilwng o sylw artistig. Mae’r arlunydd yng ngolygfa John Ingleby o Ddyfrbont y Waun wedi ei guddio bron yn y coed.

Dyfrbont y Waun gydag artist Chirk Aqueduct with artist - John Ingleby
Dyfrbont y Waun gydag artist – John Ingleby: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Pan etholwyd Thomas Telford fel llywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn 1820, fe baentiodd Samuel Lane ei bortread. Fe eisteddodd Telford ar gyfer y llun mewn stiwdio, ond roedd Lane wedi cynnwys golygfa o Ddyfrbont Pontcysyllte drwy’r ffenestr. A oedd yr arlunydd neu Telford ei hun wedi dewis hwn fel ei hoff heneb?

Llun Telfod – Lane Thomas Telford - Lane portrait
Llun Telfod – Lane: Trwy garedigrwydd Institution of Civil Engineers

Fe ledaenodd enwogrwydd Dyfrbont Pontcysyllte yn gyflym wedi iddi agor. Cyn bod ffotograffiaeth ar gael yn eang, roedd ysgythriadau wedi eu hargraffu yn cael eu cynhyrchu i ddarparu darluniau ar gyfer papurau newydd a chylchgronau. Roeddent hefyd yn cael eu gwerthu fel cofroddion. Fe baentiodd Henry Gastineau nifer o olygfeydd o amgylch Cymru i’w hatgynhyrchu fel printiau poblogaidd gan gynnwys dyfrbontydd Pontcysyllte a’r Waun.

Y Waun gan Gastineau Chirk by Gastineau
Y Waun gan Gastineau: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Caiff ysgythriad ei lunio drwy gopïo llun gwreiddiol ar blât argraffu. Weithiau fe fyddai’r ysgythrwr yn copïo ysgythriad arall a thros amser byddai camgymeriadau yn dechrau ymddangos yn y lluniau. Yn y llun hwn o 1828 mae’r cafn uwchben y bwâu wedi diflannu ac mae’r rheiliau ar yr ochr anghywir.

Camgymeriadau mewn llun Mistakes in image
Camgymeriadau mewn llun: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dyfrbont Y Waun oedd y talaf ym Mhrydain pan gafodd ei hadeiladu, ond fe’i trechwyd gan Bontcysyllte rai blynyddoedd yn ddiweddarach. I bwysleisio’r uchderau mawr hyn, byddai arlunwyr yn eu paentio o fan agos iawn i’r gwaelod, gan edrych i fyny i’r bwâu. Mae’r dyfrlliw hwn o 1941 gan Mildred Eldridge yn dangos pwysau cadarn Dyfrbont y Waun ar y tir.

Y Waun, Chirk, Mildred Eldridge
Y Waun gan Mildred Eldridge ©vaimages@vam.ac.uk

Weithiau mae’n well peidio edrych yn rhy fanwl ar lun. Mae’n bosibl nad yw’r hyn a all edrych yn dda yn y cyfanwaith cyfan yn edrych cystal o roi sylw manwl iddo. Mae’r ceffylau a’r bobl yn yr ysgythriad hwn o 1806 gan John Parry wedi eu llunio’n hyfryd. Yn anffodus, maent yn llawer rhy fach o’u cymharu â rheiliau’r ddyfrbont.

Manylion graddfa Details of scale
Manylion graddfa: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Byddai rhan helaeth o’r dirwedd wedi ei llenwi gyda diwydiannau ond nid yw’r rhain bron fyth yn cael eu dangos mewn paentiadau o’r gamlas. Fodd bynnag fe ellir gweld y mwg o’r odynau calch yn Froncysyllte yn aml, efallai fod hynny’n dangos pa mor gryf ydoedd. Yn y llun hwn o 1836 gan Henry Gastineau fe allwch weld yr odynau ar y chwith.

Mwg odyn calch Limekiln smoke
Mwg odyn calch ©The Trustees of the British Museum

Yn 1848 fe agorodd y traphontydd rheilffordd yn y Waun a thros y Ddyfrdwy. Gyda gwasanaethau cyflymach, rhatach, fe drodd cyffro’r cyhoedd i gyfeiriad y trenau ac oddi wrth y gamlas. Mewn celf hefyd dechreuodd y dyfrbontydd bylu yn llythrennol i’r cefndir. Yn yr ysgythriad hwn o Draphont Dyfrdwy, dim ond cysgod pell yw Dyfrbont Pontcysyllte.

Traphont rheilffordd Railway viaduct
Traphont rheilffordd: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Nid y dyfrbontydd oedd yr unig rannau o’r gamlas i ddenu ymwelwyr. Roedd Rhaeadr y Bedol wedi bod yn fan poblogaidd i ymwelwyr a thirlunwyr hyd yn oed cyn i’r gamlas a’r gored gael eu hadeiladu ac roeddent yn parhau i fod yn boblogaidd. Fe gwblhaodd W.K.Fuge y paentiad olew hwn yn 1894.

Rhaeadr y Bedol Horseshoe Falls - W.K.Fuge
Rhaeadr y Bedol – W.K.Fuge ©NEWA (Hawarden) PR/B/91

Fe ddyfeisiwyd ffotograffiaeth yn y 1830au ond ni ddaeth lluniau gan ffotograffwyr proffesiynol o’r dirwedd ac atyniadau ar gael yn eang tan y 1860au. Mae’r llun hwn o Ddyfrbont Pontcysyllte o’r 1860au gan Francis Bedford o Gaer ymysg y rhai cynharaf sy’n hysbys. Mae’r gwaith gyda’r bont yn dal i ddilyn paentiadau cynharach.

Llun Photography
Llun ©Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd y diffyg golau yn golygu fod gan arlunwyr lai o ddiddordeb yn nhwnnel y Waun na’r ddyfrbont. Newidiodd ffotograffiaeth hynny a daeth yr olygfa i mewn ac allan o’r twnnel yn bosibl. Mae llun Geoff Charles o 1958 yn dal llonyddwch melancolaidd y gamlas wedi i’r cychod gwaith ddiflannu a chyn dyfodiad y cychod pleser yn eu niferoedd.

Twnnel y Waun  Chirk Tunnel
Twnnel y Waun ©Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae’r gamlas yn parhau i ysbrydoli arlunwyr modern, sy’n ei ddal mewn sawl cyfrwng gwahanol. Mae Eric Gaskell yn arlunydd proffesiynol a gwneuthurwr printiau sy’n hoff o gamlesi. Mae’n aelod o Urdd yr Arlunwyr Dyfrffyrdd, grŵp sy’n hyrwyddo celf yn cynnwys camlesi ac afonydd.

Dyfrbont y Waun i’r Twnnel Chirk aqueduct to the tunnel
Dyfrbont y Waun i’r Twnnel ©Eric Gaskell : egdesign.co.uk

Yn 2016 roedd pobl yn Nhrefor a Froncysyllte yn gallu dangos eu hoffter o’r gamlas a’r ddyfrbont sy’n eu cysylltu drwy brosiect paentio cymunedol. Cafodd y golygfeydd a welir ar hyd y gamlas a thrwy gydol ei hanes eu creu i addurno Canolfan Gymunedol Froncysyllte a thu allan adeilad ger Basn Trefor.

Paentiadau cymunedol Community paintings
Paentiadau cymunedol ©Andrew Deathe