Telford Atlas

Dogfennau

Cofnodion y gorffennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Disgrifiad

Yn Nyfrbont Pontcysyllte, y Gamlas a’r tirlun o’u cwmpas, rydym yn ffodus iawn i gael amgylchedd hanesyddol mewn cyflwr da. Mae llefydd i ymweld â nhw yn yr ardal heddiw a fyddai’n dal i edrych yn gyfarwydd i Telford, Jessop a pheirianwyr eraill. Mae gennym hefyd gannoedd o wrthrychau hanesyddol cysylltiedig llai mewn amgueddfeydd a chasgliadau treftadaeth. Ond weithiau rydym yn dibynnu ar ddogfennau i ddatgelu ychydig mwy o’r hanes, i ddangos rhywbeth sydd ar goll i ni, neu i gasglu’r wybodaeth sydd ar gael at ei gilydd.

Gall hen bapurau busnes, papurau newydd, llythyrau a chofnodion ddatgelu hanes cudd a ffeithiau a anghofiwyd. Gallant ddangos i ni hefyd nad yw pethau’n edrych fel y gwnaethant erioed, neu efallai fel roeddent i fod i edrych. Gallant daflu goleuni ar safbwyntiau ac agweddau o’r gorffennol sy’n wahanol heddiw.

Gall dogfennau modern roi safbwyntiau newydd i ni a ffyrdd newydd o edrych ar sut cafodd adeiladau eu hadeiladu, pam y digwyddodd pethau a sut oedd pobl yn byw. Maen nhw’n ein helpu i gofnodi, cadw a dathlu henebion hanesyddol i’r dyfodol.

Nid yw hanes yn sefydlog ar un cyfnod, ond mae bob amser yn cael ei ychwanegu ato, ei ail archwilio a’i ail ddehongli. Mae’r wefan hon yn ddogfen arall, ymhlith llawer sy’n dilyn hynt y gamlas, ei hanes, ei thirlun a’i phobl.

Mwy O Wybodaeth Am Dogfennau

Llun diweddar o Telford Late portrait of Telford
Llun diweddar o Telford ©Glasgow Museums and Libraries Collections (cc-by-sa/2.0)

Portread hwyr o Thomas Telford, a baentiwyd gan George Patten yn 1829, ble mae’n gafael mewn cyfres o gynlluniau peirianneg. Efallai bod y rhain ar gyfer traphont ddŵr, er, nid yr un ym Mhontcysyllte. Mae’r portread yn dangos sut mae dogfennau o’r fath, y cynlluniau ar gyfer strwythurau, yn hanfodol i waith y peiriannydd.

Mae’r sêl cŵyr hwn, ar lythyr i beiriannydd arall o’r Alban, James Jardine, yn dangos y balchder a fu gan Telford drwy gydol ei oes yn ei draphontydd dŵr yn y Waun a Phontcysyllte. Ysgrifennwyd y llythyr yn 1828, dros ddau ddegawd wedi i’r traphontydd dŵr gael eu cwblhau, ac wedi i Telford greu llawer mwy o henebion trawiadol yn ystod ei yrfa.

Sêl Telford's seal
Sêl Telford:Trwy garedigrwydd Prof. Roland Paxton, ICE Scotland Museum, Heriot-Watt University

Lluniad gan Telford, a ddyddiwyd yn ddiweddarach ganddo fel 1794, yn dangos cysyniad ar gyfer traphont ddŵr gyda’r pileri a chefnogaeth ar gyfer y cafn wedi’u hadeiladu yn defnyddio delltwaith haearn. Gallai hwn fod yn syniad cynnar ar gyfer cynllun Dyfrbont Pontcysyllte, sy’n rhoi cipolwg ar esblygiad y cynnyrch gorffenedig.

Llun cynnar o Bontcysyllte  Early Pontcysyllte drawing
Llun cynnar o Bontcysyllte ©Science Museum / Science & Society Picture Library, Cedwir pob hawl

Nid cynllun cynnar Telford oedd yr unig un ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte. Yn 1794, darluniodd John Duncombe, a arolygodd y llwybr ar gyfer y gamlas, y cysyniad hwn ar gyfer traphont ddŵr garreg draddodiadol i groesi Afon Dyfrdwy. A fyddai’r strwythur anarferol hwn â bwa dwbl wedi cael ei ystyried mor hardd â’r draphont ddŵr sydd yno heddiw, petai wedi cael ei adeiladu?

Llun dyfrbont Duncombe Duncombe aqueduct drawing
Llun dyfrbont Duncombe ©Science Museum / Science & Society Picture Library, Cedwir pob hawl

Mae map John Duncombe o 1795 yn dangos llwybr y gamlas fel y’i cynlluniwyd y flwyddyn honno. Mae’n bwysig i’n hatgoffa o’r cynllun gwreiddiol i gysylltu prif afonydd y Merswy, Dyfrdwy a Hafren. Ni chafodd y darn rhwng Trefor a Gaer ei adeiladu erioed, felly aeth y map yn hen yn fuan iawn.

Duncombe map
Map Duncombe (cc-by-sa/2.0)

Mae map o 1803 yn dangos y rhagnant sy’n bwydo i’r gamlas, o Fasn Trefor i Raeadr y Bedol yn Llantysilio. Er mai ond rhan fach o’r rheilffordd sydd ar y map, mae teitl y ddogfen – A Plan of a Railroad from Ruabon Brook – yn awgrymu sut y byddai’r rheilffordd yn disodli pwysigrwydd y gamlas.

Map cangen Llangollen  Llangollen branch map
Map cangen Llangollen : Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cynhyrchwyd mapiau degwm yng Nghymru a Lloegr ar ôl Deddf Cyfnewid y Degwm 1837. Y degwm oedd trethi a dalwyd i’r eglwys leol gan dirfeddianwyr. Roedd pob cae a gardd yn cael eu rhifo ar gyfer asesiad, ond roedd y gamlas yn talu degwm ar adeiladau’n unig, felly nid yw’n cael ei ddangos yn fanwl iawn. Nid yw’r draphont ddŵr yn cael ei labelu hyd yn oed.

Tithe map
Map Tithe: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cafodd mapiau modern eu harolygu ar gyfer enwebiad ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd. Mae llinell y gamlas ac o amgylch y draphont ddŵr yn las. Y dotiau piws yw adeiladau rhestredig, mae tirweddau hanesyddol yn wyrdd neu binc ac mae heneb Clawdd Offa yn felyn. Mae hanes cyfoethog yr ardal yn amlwg yn y ddogfen hon.

Map modern o safleoedd hanesyddol Modern map of historical sites
Map modern o safleoedd hanesyddol: © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded 100023429. 2021

Oherwydd y ffyniant mewn adeiladu camlesi ar ddiwedd y Ddeunawfed Ganrif, rhuthrodd pobl i fuddsoddi mewn prosiectau newydd. Gelwid hyn yn ‘Mania Camlesi’. Mae cartwnau fel hwn yn dangos barn rhai pobl am y buddsoddwyr, yn derbyn cynigion y cwmnïau camlesi yn frwd.

Cartwn Mania Camlas Canal Mania cartoon
Cartwn Mania Camlas ©The Trustees of the British Museum

Gwerthodd y cwmnïau camlesi gyfranddaliadau i fuddsoddwyr i ariannu’r gwaith adeiladu. Mae’r dderbynneb hon o 1793 yn dangos bod Robert Beardmore wedi addo buddsoddi £275 (cyflog mwy na phum mlynedd i weithiwr crefftus) i Gamlas y Dwyrain a Merswy. Cafodd hon ei huno’n ddiweddarach â Chamlas Ellesmere pan addawyd cyswllt o Gamlas Caer i’r Eglwys Wen.

Rhannu tystysgrif  Share certificate
Rhannu tystysgrif: Atgynhyrchir gyda chaniatâd caredig Spink and Son Ltd

Defnyddiwyd sêl swyddogol cwmni i ddilysu dogfennau. Roedd y cynlluniau yn fath o frandio corfforaethol. Roedd sêl Cwmni Camlas Ellesmere yn dangos corn llawnder, symbol o ffyniant, wrth ymyl basn lle mae traphont ddŵr yn sefyll, ynghyd â chwch. Mae’r dduwies Britannia yn cynrychioli undod y tair afon.

Ellesmere Canal Seal
Sêl Ellesmere ©National Railway Museum

Ffurfiwyd Cwmni Unedig Rheilffyrdd a Chamlas Swydd Amwythig yn 1846 gan gymryd y gwaith o redeg Camlas Ellesmere, Camlas Llangollen erbyn hyn, o’r flwyddyn honno. Mae ei sêl yn wahanol iawn i un Cwmni Camlas Ellesmere, yn dangos arfbais o arwyddeiriau trefi ar hyd ei lwybrau.

SUC Seal
Sêl SUC: bw 192.3.1.36.7.8 Cyflenwyd gan Canal & River Trust

Gwnaeth Cwmni Unedig Rheilffyrdd a Chamlas Swydd Amwythig yn siŵr bod ei holl eiddo wedi ei gofnodi ac yn cynnwys nod y cwmni. Roedd y llythrennau S.U.C. neu weithiau S.U.Co. i’w gweld ar bopeth o gychod camlas i arwyddion a hyd yn oed ar bethau bychan fel offer, fel y padl hon ar gyfer gweithio clai ar wely’r gamlas.

Padl clai SUC SUC clay paddle
Padl clai SUC ©Andrew Deathe

Mae diddordeb cenedlaethol yn Nyfrbont Pontcysyllte i’w weld mewn adroddiadau cynnar mewn papurau newydd. Cyhoeddwyd y papur newydd cyntaf yng Nghymru, y Cambrian yn Abertawe o fis Ionawr 1804. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, cyhoeddodd adroddiad am adeiladu’r gamlas. Ar 23 Tachwedd 1805, nododd y papur bod y draphont ddŵr wedi’i chwblhau.

Adroddiad papur newydd Newspaper report
Adroddiad papur newydd: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Wrth agor Dyfrbont Pontcysyllte ar 26 Tachwedd 1805, darllenwyd cysegriad i’r dorf. Ailgynhyrchwyd y testun yn nes ymlaen mewn adroddiad i gyfranddalwyr. Fe’i ysgrifennwyd hefyd ar lechen efydd wrth fôn yn o’r pileri sy’n sefyll yn yr afon, ble mae bron yn amhosibl ei ddarllen.

Cyflwyniad agoriadol Opening dedication
Cyflwyniad agoriadol © Harry Arnold WATERWAY IMAGES

Nid dim ond y bobl gyfoethog ac enwog sy’n rhan o’r gamlas sy’n cael eu cynnwys mewn dogfennau amdani. Mae manylion mewn erthyglau papur newydd, llyfrau teithio a phapurau swyddogol yn sôn am fywydau llawer o bobl sy’n gweithio hefyd. Ar y dudalen hon o gyfrifiad 1871, gallwch weld dau deulu o gychwyr sy’n byw ym Mroncysyllte.

Census
Cyfrifiad 1871 © The National Archive Crown Copyright 1871

Gall argraff arlunwyr o’r gamlas roi tystiolaeth werthfawr o’i hanes. Mae’r engrafiadau hyn yn dangos traphont ddŵr y Waun o’r un safle mwy neu lai ond gyda newid sylweddol yn y tirlun. Argraffwyd y cyntaf tua 1820 a’r ail yn fuan wedi i draphont y rheilffordd agor yn 1848.

Dyfrbont y Waun rhan 1 Chirk Aqueduct part 1
Dyfrbont y Waun: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ogystal â dogfennu newidiadau mewn tirlun, gall artistiaid weithiau ddangos sut y digwyddodd y newidiadau. Mae dyfrlliw John Ingleby o’r 1800au cynnar yn dangos yn glir y sgaffaldau coed ar Ddyfrbont Pontcysyllte, yn ogystal â’r craen syml a ddefnyddiwyd i siglo’r gwaith haearn i’w le ar y platfform cul.

Golygfa o Bontcysyllte Ingleby view of Pontcysyllte
Golygfa o Bontcysyllte: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae technoleg fodern wedi creu math newydd o ddogfennau ar gyfer y gamlas. Mae adluniadau a dadadeiladu digidol o adeiladau a strwythurau yn caniatáu i ni ddadansoddi sut y cawsant eu rhoi at ei gilydd. Mae’n gwneud i ni werthfawrogi o’r newydd sgiliau’r peirianwyr ac yn helpu i warchod eu gwaith mewn ffordd sympathetig.

Pont torri i ffwrdd Cut away bridge
Pont torri i ffwrdd © Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae llawer o ysgrifenwyr wedi gadael disgrifiadau gwych o’r gamlas, y traphontydd dŵr a’r tirlun i ni. Arhosodd George Borrow yn Llangollen yn 1854 a threuliodd beth o’i amser yn cerdded llwybr tynnu’r gamlas. Mae ei atgofion, a gyhoeddwyd fel Wild Wales yn 1888, yn dweud wrthym am rai o’r bobl a’r llefydd a welodd.

Dyfyniad gan George Borrow Excerpt from George Borrow
Dyfyniad gan George Borrow

Cyn i Ddyfrbont Pontcysyllte ac un ar ddeg o filltiroedd o Gamlas Llangollen gael eu cynnig fel Safle Treftadaeth y Byd, roedd yn rhaid ymchwilio, casglu a chrynhoi llawer o ddogfennau. Cefnogir y Ddogfen Enwebu 232 tudalen gan dros nawdeg o ddeddfau a pholisïau cenedlaethol a llywodraeth leol, arolygon hanesyddol, astudiaethau a chynlluniau rheoli.

Dogfen enwebu  Nomination document
Dogfen enwebu: Trwy garedigrwydd Wrexham County Borough Council a RCAHMW

Ers 2009, mae marciwr efydd yn y llwybr tynnu ym mhont Gledrid yn dangos ble mae Camlas Llangollen yn dod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae sgwâr canolog y cynllun yn symbol o sgiliau a dyheadau dynol, mae’r cylch yn dathlu rhoddion natur. Mae’r ieithoedd a’r border crwn yn cynrychioli’r byd.

Nodwr STB WHS marker
Nodwr STB ©Andrew Deathe