*sign for Ty Mawr walk

Sut i Gyrraedd

Ymweld am drip undydd neu’n aros am rhai dyddiau, mae’n rhwydd gyda char, trên a bws

Sut i ddod o hyd i ni

Gyda Char

Rydym wedi’n lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac fel canllaw cyffredinol, gallwch ddod yma ar hyd yr M53 neu’r M56 o’r Gogledd Orllewin, a’r M54 o Ganolbarth Lloegr.

Dilynwch yr arwyddion ffordd o’r A539 (Cyfnewidfa Rhiwabon).

Mae tri maes parcio wedi eu arwyddo oddi ar y A539:

  • y brif maes parcio ar Stryd y Frenhines (LL14 3SG) ger Cefn Mawr
  • un maes parcio oddi ar Ffordd yr Orsaf ar gyfer deiliaid bathodyn glas a cerdyn parcio yn unig (LL20 7TY)
  • maes parcio ychwanegol a coetsis yn Giat Wimbourne, Ffordd y Frenhines, Cefn Mawr (LL14 3NP)

Noder: Cynghorir gyrwyr i beidio â pharcio ym Masn Froncysyllte oddi ar yr A5. Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio yma ac maent yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer preswylwyr. Dylai’r holl draffig gael mynediad i’n meysydd parcio swyddogol o’r A539 (Ffordd Rhiwabon- Llangollen) a dilyn yr arwyddion ar gyfer meysydd parcio.

Gyda Thrên

Mae gorsafoedd trenau yn y Waun a Rhiwabon, lle gallwch gymryd bws i Safle Treftadaeth y Byd. Gallwch gymryd unrhyw un o’r gorsafoedd ar hyd Rheilffordd Dreftadaeth Llangollen, sy’n pasio Corwen a Llangollen.

Gwiriwch yr amserlenni ar gyfer eich siwrnai.

Gyda Bws

Mae’r prif ganolfannau ymwelwyr o fewn Safle Treftadaeth y Byd i gyd o fewn cyrraedd ar y bws o Ganol Tref Wrecsam a Gorsaf Rhiwabon. Mae bws rhif 5 (gweithredir gan Arriva Bus Wales) yn gadael Gorsaf Bws Wrecsam (pum munud ar hugain wedi pob awr) a Gorsaf Rhiwabon (pedwar deg tri munud wedi pob awr) bob awr rhwng 7am a 10pm, cyn dilyn yr A539 ar hyd gogledd coridor Safle Treftadaeth y Byd heibio Ffordd yr Orsaf (gollwng yn Basn Trefor) ac yn cyrraedd yn Llangollen ble mae’r gwasanaeth yn terfynu.

Mae bws rhif 2 hefyd yn gwasanaethu canol tref y Waun bob awr ac yn cysylltu llwybr rhif 5 yng Nghanolfan Hamdden Plas Madog ar yr A539.