Datganiad Hygyrchedd ar gyfer www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Ynghylch y wefan hon

Partneriaeth rhwng AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ac Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi fod yn gallu:

  • Closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac rydym wedi defnyddio cynlluniau cyson i osgoi cymhlethdod.

AbilityNet has advice on making your device easier to use if you have a disability.
Gwefan allanol yw hon a bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Efallai na fydd y cynnwys a’r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn gwbl hygyrch.
  • Nid yw rhai o’n ffurflenni ar-lein yn gwbl hygyrch.
  • Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i dechnoleg gynorthwyol.
  • Mae mapiau rhyngweithiol yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Nid yw mapiau rhyngweithiol yn cynnwys digon o fotymau gyda labeli a lliwiau sy’n cyferbynnu.

Adborth a Manylion Cyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, neu fformat hawdd ei ddarllen, cysylltwch â ni:

E-bost:
pontcysyllte@wrexham.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte
Adran Tai a’r Economi
Ffordd Rhuthun
Wrecsam
LL13 7TU

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella hygyrchedd y wefan, cysylltwch â thîm Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ar pontcysyllte@wrexham.gov.uk.

Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). (http://eass-ws.custhelp.com/app/home)

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 o ganlyniad i’r enghreifftiau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r canllawiau hygyrchedd:

  • Nid oes testun amgen ar gyfer rhai lluniau. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein holl luniau’n bodloni’r safonau hygyrchedd.
  • Nid yw rhai o’r lliwiau sy’n cyferbynnu yn bodloni’r gofynion hygyrchedd.
  • Mae mapiau rhyngweithiol yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd.

Baich anghymesur:

  • Nid yw’n rhai o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd. Wrth ystyried a allwn ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu:
    • Faint fyddai’r gwaith yn ei gostio, a’r effaith y byddai gwneud y gwaith yn ei gael arnom ni
    • Faint o fudd a gâi defnyddwyr ag anableddau petaem ni’n gwneud y gwaith/li>
  • Nid yw rhai meddalweddau trydydd parti yn bodloni safonau hygyrchedd. Rydym yn bwriadu gwneud diweddariadau hygyrchedd cyn gynted ag y byddant ar gael.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Gwneir gwelliannau hygyrchedd i’r wefan hon yn barhaus, ac mae golygyddion cyfrannol yn dilyn dogfennaeth ar safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Mawrth 2021. Cafodd y datganiad ei adolygu ddiwethaf ar 21 Mawrth 2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 21 Mawrth 2021. Gwnaed y prawf gan Artychoke.

Defnyddiwyd y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: Croestoriad o fathau o dudalennau, gyda lefel uchel o draffig ar y wefan.