*Dinas Bran

Sut i fod yn Safle Treftadaeth y Byd

Byddwch yn rhan o rwydwaith unigryw a gydnabyddir gan UNESCO fel y gorau yn y byd

Beth yw Safle Treftadaeth y Byd?

The United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization (UNESCO) seeks to encourage the identification, protection and preservation of cultural and natural heritage around the world considered to be of outstanding value to humanity. This is embodied in an international treaty called the Convention concerning the Protection of the World Cultural and Natural Heritage, adopted by UNESCO in 1972.

Confensiwn Treftadaeth y Byd

Mae treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ymhlith yr asedau amhrisiadwy ac unigryw, nid yn unig rhai pob cenedl, ond y ddynoliaeth i gyd. Mae’r golled, drwy ddirywiad neu ddiflannu, unrhyw un o’r asedau mwyaf gwerthfawr hyn yn gyfystyr â thlodi o ran treftadaeth holl bobloedd y byd. Gellir ystyried rhannau o’n treftadaeth, oherwydd eu nodweddion eithriadol, i fod o “Werth Cyffredinol Eithriadol” ac fel y cyfryw yn deilwng o amddiffyniad arbennig yn erbyn y peryglon sy’n eu bygwth fwyfwy.

Er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo modd yr adnabyddir yn briodol, y diogelir, y cedwir ac y cyflwynir treftadaeth y byd, mabwysiadodd aelod-wladwriaethau UNESCO (Sefydliad Addysg, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig) “Gonfensiwn Treftadaeth y Byd” yn 1972.

Caiff Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol eu diffinio yn erthyglau 1 a 2 o ‘Gonfensiwn Treftadaeth’.

Erthygl 1 – “treftadaeth ddiwylliannol”

  • henebion: gweithiau pensaernïol, gweithiau cerflun coffaol a phaentiadau, elfennau neu adeiladau o natur archeolegol, arysgrifau, anheddau ogof a chyfuniadau o nodweddion sydd o Werth Cyffredinol Eithriadol o safbwynt hanes, celf neu wyddoniaeth;
  • grwpiau o adeiladau; grwpiau o adeiladau ar wahân neu’n gysylltiedig sydd, oherwydd eu pensaernïaeth, eu homogenedd neu le yn y dirwedd, o Werth Cyffredinol Eithriadol o safbwynt hanes, celf neu wyddoniaeth;
  • safleoedd: gweithiau dyn neu weithiau cyfun natur a dyn, ac ardaloedd, gan gynnwys safleoedd archeolegol sydd o Werth Cyffredinol Eithriadol o safbwynt hanesyddol, esthetig, ethnolegol neu anthropolegol.

Erthygl 2 – “treftadaeth naturiol”

  • nodweddion naturiol yn cynnwys ffurfiadau ffisegol a biolegol neu grwpiau o ffurfiannau o’r fath sydd o Werth Cyffredinol Eithriadol o safbwynt esthetig neu wyddonol;
  • ffurfiannau daearegol a ffisiolegol ac ardaloedd a amlinellir yn union sy’n ffurfio cynefin o rywogaethau dan fygythiad o anifeiliaid a phlanhigion o Werth Cyffredinol Eithriadol o safbwynt gwyddoniaeth neu gadwraeth;
  • safleoedd naturiol neu ardaloedd naturiol a amlinellir yn union o Werth Cyffredinol Eithriadol o safbwynt gwyddoniaeth, cadwraeth neu brydferthwch naturiol.
UNESCO
World Heritage

Sut i gael eich cynnwys

I’w cynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd, rhaid i safleoedd fod o werth cyffredinol eithriadol a bodloni o leiaf un o ddeg meini prawf dethol:

  1. cynrychioli campwaith o athrylith greadigol dynol;
  2. arddangos cyfnewidiad pwysig o werthoedd dynol, dros gyfnod amser neu o fewn ardal ddiwylliannol o’r byd, ar ddatblygiadau mewn pensaernïaeth neu dechnoleg, celfyddydau anferthol, tref-gynllunio neu ddylunio tirlun;
  3. dwyn tystiolaeth unigryw neu o leiaf eithriadol i draddodiad diwylliannol neu i wareiddiad sy’n byw neu sydd wedi diflannu;
  4. bod yn enghraifft eithriadol o fath o adeilad, ensemble pensaernïol neu dechnolegol neu dirlun sy’n dangos (a) cam(au) arwyddocaol yn hanes dynoliaeth;
  5. bod yn enghraifft eithriadol o anheddiad traddodiadol dynol, defnydd tir, neu ddefnydd-môr sy’n cynrychioli’r diwylliant (neu ddiwylliannau), neu ryngweithio dynol â’r amgylchedd yn enwedig pan mae wedi dod yn ddiamddiffyn o dan effaith newid anghildroadwy;
  6. bod yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n ddiriaethol â digwyddiadau neu draddodiadau byw, gyda syniadau, neu â chredoau, â gweithiau celfyddydol a llenyddol o arwyddocad cyffredinol eithriadol. (Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylid yn ddelfrydol defnyddio’r maen prawf hwn ar y cyd â meini prawf eraill);
  7. i gynnwys ffenomena naturiol eithriadol neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a phwysigrwydd esthetig;
  8. bod yn enghreifftiau eithriadol sy’n cynrychioli cyfnodau pwysig yn hanes y ddaear, gan gynnwys cofnod o fywyd, prosesau daearegol sylweddol parhaus yn natblygiad tirffurfiau, neu nodweddion geomorffig neu ffisiograffig arwyddocaol;
  9. bod yn enghreifftiau eithriadol sy’n cynrychioli sylweddol prosesau ecolegol a biolegol parhaus yn esblygiad a datblygiad ecosystemau daearol, dŵr croyw, ecosystemau arfordirol a morol a chymunedau planhigion ac anifeiliaid;
  10. cynnwys y cynefinoedd naturiol pwysicaf a mwyaf arwyddocaol ar gyfer cadwraeth in-situ o amrywiaeth biolegol, gan gynnwys y rhai sy’n cynnwys rhywogaethau dan fygythiad sydd o werth cyffredinol eithriadol o safbwynt gwyddoniaeth neu gadwraeth.
*Pontcysyllte Aqueduct