pontcysyllte aqueduct drawing

Bwndeli Dysgu

Mae’r chwe bwndel yn llawn adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm fel y gall plant ddysgu am Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn yr ysgol neu gartref.

Mae pob bwndel â thema yn cynnwys Cynllun Gweithgareddau cychwynnol i athrawon, rhieni neu ofalwyr, yn ogystal â nifer o weithgareddau. Mae’r rhain yn amrywio o ffilmiau, animeiddiadau a gemau i chwarae rôl, heriau gwyddonol a gweithgareddau creadigol. Yn ogystal mae ynddynt gysylltiadau â gwybodaeth gefndir, ac wrth gwrs mae llawer mwy i’w ddarganfod yn adrannau Gwrthrychau a Theithiau Ar-lein y wefan hon.