pontcysyllte aqueduct Learning Bundles - Trade

Masnach a Diwydiant

Adeiladwyd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte er mwyn cludo deunyddiau crai toreithiog Dyffryn Dyfrdwy i farchnadoedd rhanbarthol a chenedlaethol yn haws ac yn rhatach. Ysgogodd hynny dwf mewn diwydiannau lleol.

Masnach a Diwydiant

Cynllun Gweithgareddau

Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno ein gweithgareddau i helpu plant i ddysgu pam y cafodd y gamlas ei hadeiladu a sut yr arweiniodd at ysgogi twf mewn masnach a diwydiant.


teacher
Gwylio
Why was the Llangollen Canal built
Pam gafodd y Gamlas ei hadeiladu?
Gwyliwch y ffilm hon i ganfod pam oedd cludiant y gamlas yn gymaint gwell na chart a cheffyl.

Chwarae
PowerPoint Masnach a Diwydiant
PowerPoint Masnach a Diwydiant

Chwaraewch y PowerPoint rhyngweithiol hwn i ddysgu am yr effaith y cafodd y gamlas ar fasnach a diwydiant.

Creu
Slate split into various thicknesses
Ymchwilio i Ddeunyddiau Crai

Defnyddiwch y Ffeiliau Ffeithiau i ymchwilio i ddeunyddiau crai Dyffryn Dyfrdwy a chrëwch gyflwyniad neu daith rithiol.

Creu
Incline example in Welsh
O’r Chwarel i’r Gamlas

Crëwch lethr i arbrofi a chanfod sut oedd cerrig yn cael eu symud o’r chwarel i lawr at y gamlas.

Chwarae
What am I card game Welsh
Gêm Gardiau Beth Ydw i?

Chwaraewch y gêm gardiau hon i adnabod deunyddiau crai lleol a gwrthrychau’r gamlas.