Buckby Can

Bywyd ar y Gamlas

Byw a gweithio ar y dŵr.

Disgrifiad

Roedd camlesi’n darparu gwaith i ddegau o filoedd o bobl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn ogystal â’r diwydiannau a gawsai wasanaeth y rhwydwaith trafnidiaeth, roedd y cwmnïau camlas angen timau cynnal a chadw, rheolwyr glanfa a warws, a gweithredwyr cychod wrth gwrs.

I ddechrau, roedd y cychwyr yn byw mewn tai ger y camlesi. Wrth i rwydwaith y camlesi ledaenu o amgylch Prydain, roedd nifer yn gwneud teithiau hirach ac yn treulio mwy o amser ar eu cychod. Roedd cystadleuaeth gan reilffyrdd yn arwain at gostau cludo is gan gwmnïau; a gostyngiad yn incwm y cychwyr hefyd. Daeth yn rhatach i gychwyr ddod â’u teuluoedd gyda nhw. O’r ffordd hon o fyw, daeth cymuned glos o gychwyr, gyda diwylliant oedd yn gymysgedd o draddodiadau gwahanol ranbarthau.

Roedd y rhan fwyaf o gychwyr yn gweithio i gwmnïau cludo. Roedd ‘rhif un’ yn gychwyr oedd yn berchen ar ei gwch neu yn ei llogi. Cai’r ddau eu talu fel arfer yn ôl y milltiroedd a deithiwyd neu’r tunelli a gludwyd. Yn eu tro, roedden nhw’n cyflogi criw neu aelodau o’r teulu.

Mae’n hawdd rhamantu am fywyd ar y gamlas ond roedd y gwaith yn galed, a’r oriau’n hir, y llafur yn gorfforol ac ym mhob tywydd. Roedd disgwyl i bawb yn y teulu roi help llaw, gan gynnwys plant ifanc. Erbyn y 1960au roedd bron pob cwch gwaith a phobl y gamlas, wedi diflannu o’r camlesi.

Yn ystod y 1940au, roedd mwy na 600 o deuluoedd yn dal i fyw a gweithio ar y dyfrffyrdd. Yn ystod y rhyfel, daeth tua 45 o ferched atynt i gefnogi’r gwaith ar hyd y Dyfrffyrdd Mewndirol, a chawsant y llys enw ‘Idle Women’ ar y pryd. Fe ddysgon nhw sut i weithio’r cychod cul a danfon glo o amgylch Canolbarth Lloegr rhwng 1943-46.

Llythrennwr

Mae’r camlesi yn dal i gynnal nifer o fusnesau ar hyd glannau’r dŵr. Yn ogystal â nifer o gwmnïau llogi cychod, mae rhai sy’n adeiladu a thrwsio cychod, trydanwyr arbenigol, plymwyr a mecanics, yn ogystal â siopau’n gwerthu offer. Mae Graham Brown yn gwneud arwyddion ac yn paentio ar gychod cul, ac mae wedi gweithio ers blynyddoedd yn ardal Caerloyw.

Mwy O Wybodaeth Am Bywyd ar y Gamlas

Ar y cychwyn, roedd Camlas Llangollen fel y’i gelwir heddiw, yn Gamlas Ellesmere, ac yna daeth yn Gamlas Ellesmere a Chaer, ac yna daeth yn rhan o’r Shropshire Union Canal. Roedd pob cwmni yn arddangos ei enw neu flaenlythrennau ar eu heiddo, o’r cychod i harneisi’r ceffylau, neu offer fel pwysau.

Ellesmere Canal Company gauging weight Pwysau medrydd Cwmni Camlas Ellesmere
Pwysau medrydd Cwmni Camlas Ellesmere Harry Arnold ©WaterwayImages.com

Er nad oedd gwisg benodol ar gyfer gweithwyr ar y Shropshire Union Canal, roedd steil y cychwyr yn eithaf unigryw, gyda throwsus gwyn melfaréd, gwasgod las a hosanau glas. Roedden nhw hefyd yn gwisgo hances ddu, neu wyn a glas am eu gyddfau, ac yn addurno eu beltiau gydag addurniadau pres.

Cychwr SUCo SUCo boat man
Shropshire Union Canal Company Boatman: Alfred Roberts, Shropshire Union fly-boat skipper, with horse BOBBY at Basin End, Nantwich © Casgliad teulu Jack Roberts

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cwmnïau camlas yn codi tai i weithwyr ar hyd glan y gamlas. Roedd rhai yn gartrefi i gychwyr ac eraill ar gyfer staff cynnal a chadw. Codwyd tai ger y dorau i geidwaid y dorau. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd tai ar gyfer fforddolwyr, oedd yn gwylio ac yn cynnal a chadw rhannau’r o’r llwybr llusgo. Mae hwn ym Mroncysyllte.

Tŷ fforddoliwr, Froncysyllte Lengthsman's house, Froncysyllte
Tŷ fforddoliwr, Froncysyllte ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd glanfeydd yn llefydd prysur iawn gyda nwyddau’n cael eu llwytho a’u dadlwytho, ac roedd y rheolwyr yn aml yn byw ar y safle, ac fe’u gelwid yn lanfäwyr. Yn wreiddiol, roedd y bwthyn hwn yn swyddfa i gwmni camlas ac yna’n dy glanfäwr, ger cyffordd brysur basn Trefor, Camlas Plas Kynaston a’r holl dramffyrdd oedd yn gwasanaethu diwydiannau ardal Cefn Mawr.

Wharfinger's House, Trefor
Tŷ Glanfawr, Trefor ©Andrew Deathe

Pan agorwyd y camlesi cyntaf ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, roedd y teithiau’n gymharol fyr. Anaml iawn y byddai’r cychwyr i ffwrdd am fwy nag un noson ac fe fydden nhw’n dychwelyd bron bob dydd i gartref y teulu. Roedd y tai yn rhai bychan iawn, fel y bythynnod yma ym 1820 yn Canal View, Chirk Bank.

Workers' cottages, Chirk Bank
Bythynnod gweithwyr, Chirk Bank ©Andrew Deathe

Wrth i rwydwaith y camlesi dyfu o amgylch Prydain, roedd y teithiau’n mynd yn hirach, ac weithiau yn wythnos ar y tro. O gan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd nifer o deuluoedd i gychwyr yn byw ar y cwch hefyd. Gan eu bod yn symud o amgylch yn gyson ac yn ymwneud ag eraill yn yr un sefyllfa, fe dyfodd diwylliant y cychod.

Family on a boat
Teulu ar gwch: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 197.4.1.1.178

Doedd dim llawer o le byw ar fwrdd y cwch cul. Roedd hi’n bwysicach cael lle i gario llwythi gan mai dyma oedd yn talu i’r gweithwyr cychod. Roedd hi’n gyffredin iawn i deuluoedd o bump neu fwy fyw mewn ychydig fetrau sgwâr o gaban oedd yn gweithredu fel ystafell wely, cegin ac ystafell fyw.

Woman in cabin
Dynes mewn caban: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.2.2.13.8.19

Roedd gan ferched y cychod fywydau prysur, yn cadw’r stof yn mynd, coginio, golchi dillad a gofalu am y plant, yn ogystal â helpu i reoli’r cwch yn y dorau a’r glanfeydd. Roedden nhw’n ymfalchïo mewn cabanau glân ond roedd hi’n anodd iawn pan oedd y llwythi’n fudr a dim llawer o le i ymolchi.

Woman washing clothes
Dynes yn golchi dillad: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 92.3.2.2.5.1

Yn union fel y dynion, daeth steil merched y cychod yn eithaf nodedig. Roedden nhw’n gwisgo haenau o ddillad i’w cadw nhw’n gynnes, gyda sgertiau gwlanen hir, a sawl haen o beisiau. Roedd ganddyn nhw ffedogau lliain gwydn i’r cadw nhw rhag y baw. Roedd boned les mawr hefyd yn gyffredin gan y merched a’r genethod.

Dynes mewn gwisg draddodiadol Women in traditional costume
Dynes mewn gwisg draddodiadol: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 197.4.1.1.34

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd nifer o blant yn mynd i weithio yn hytrach na mynd i’r ysgol. Ar gychod cul, byddai plant ifanc wyth a naw oed yn cychwyn gweithio. Roedden nhw’n gyfrifol am ofalu am y ceffyl, gan gerdded milltiroedd am dros ddeuddeg awr y dydd yn aml.

Plentyn gyda cheffyl Child with horse
Plentyn gyda cheffyl: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.2.2.12.8.50

Roedd addysg yn brin i blant y cychod cul, oherwydd fe fydden nhw’n symud cymaint dros bellter mawr. Ceisiodd cwmnïau camlesi ac elusennau helpu drwy greu ystafelloedd ysgol dros dro mewn sefydliadau, fel hon yn Froncysyllte, ond roedd lefelau llythrennedd plant y cychod yn isel.

Sefydliad Froncysyllte Institute
Sefydliad Froncysyllte ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Oherwydd eu bod yn byw ger y dŵr a safleoedd diwydiannol prysur, roedd bywyd ar y cychod cul yn beryglus iawn i blant. Roedd perygl o foddi i’r plant iau wrth chwarae a’r rhai hyn wrth eu gwaith. Yn drist iawn, golyga hyn fod yr hyn a wyddom am eu bywydau yn dod o adroddiadau am farwolaethau.

Plentyn ar gwch Child on boat
Plentyn ar gwch: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.2.2.13.1.256

Mae arddull yr addurn ar gwch camlas a elwir yn ‘Rosynnau a Chestyll’ yn un traddodiadol i bob cwch cul. Ond mewn gwirionedd, dim ond yng Nghanolbarth Lloegr yr oedd i’w weld, a byth ar Gamlas Llangollen. Heddiw mae’n arddull boblogaidd ar sawl cwch ac ar gofroddion y gamlas.

Rhosod a Chestyll Roses and Castles
Rhosod a Chestyll ©David Dixon (cc-by-sa/2.0)

Byddai merched oedd yn byw ar gychod ar y gamlas hefyd yn treulio amser yn crosio, sef gwaith gyda gwlân yn defnyddio bachyn bychan. Fe fydden nhw’n gwneud sgwariau lliwgar ac yn eu cysylltu â’i gilydd i greu blancedi a dillad. Roedden nhw’n gwneud gorchudd hefyd i gadw’r pryfed rhag mynd at glustiau ceffylau’r gamlas.

Het ceffyl wedi’i chrosio Crochet horse hat
Het ceffyl wedi’i chrosio:Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.2.2.12.4.5

Caiff clustogau eu hongian o du blaen a thu ôl y cychod i’w gwarchod rhag taro yn erbyn rhywbeth. Roedd y cychwyr yn eu troi yn gelf addurnedig hefyd. Roedd gwaith rhaffau cymhleth a hyd yn oed cynffonau ceffylau marw yn addurno’r ‘pen taro’ neu’r llywbost, ar gefn y cwch.

Modern rope fenders
Ffenders rhaffau modern ©Andrew Deathe

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg , roedd cynifer ag 8,000 o bobl yn byw ar gychod cul ym Mhrydain. Heddiw, mae Ymddiriedolaeth y Gamlas a’r Afon yn amcangyfrif fod mwy na 15,000 o bobl yn byw yn barhaol ar y camlesi a’r dyfrffyrdd. Er na chaiff y cychod eu defnyddio’n aml ar gyfer danfon llwythi, mae nifer o’r preswylwyr yn ‘gweithio o gartref’ ar eu cychod.

Preswylydd cwch yn gweithio gartref boat dweller working from home
Preswylydd cwch yn gweithio gartref ©chrisandshell.co.uk