Platform scaffold holes in aqueduct

Tywodfaen

Carreg leol yn cynnal y nant yn yr awyr. Mae’r pileri tywodfaen talaf sy’n cynnal cafn haearn Dyfrbont Pontcysyllte dros yr afon Dyfrdwy yn mesur dros 38 metr (126 troedfedd).

Disgrifiad

Gellir gweld pentref Cefn Mawr yn glir o ddyfrbont Pontcysyllte, ar fryn amlwg tua’r dwyrain. Mae’r bryn yn grib o dywodfaen. Oddi yma, roedd chwareli’n cyflenwi carreg adeiladu ardderchog i greu’r pileri main, tal sy’n cynnal y ddyfrbont ar draws Dyffryn Dyfrdwy.

Defnyddiwyd y garreg o’r ansawdd gorau o Gefn Mawr i adeiladu tai crand ac adeiladau pwysig yn yr ardal ers y Canol Oesoedd. Wrth i ddiwydiant gynyddu cyfoeth y pentref, adeiladwyd bythynnod a siopau o’r garreg hon hefyd. Pan gaiff ei thorri gyntaf, mae’r garreg yn lliw melyn golau ond mae’n hindreulio i fod yn lliw euraidd cryf ar ôl ychydig flynyddoedd.

Mae Carreg Cefn yn wydn ond gellir ei thorri’n fanwl gywir i sicrhau bod pob bloc yn ffitio’n berffaith. Bu i’r peirianwyr Thomas Telford a William Jessop sylwi ar ei hansawdd pan oedden nhw’n adeiladu’r gamlas. Aethant ati i’w defnyddio i adeiladu Dyfrbont y Waun. Dyma oedd y dewis naturiol hefyd ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte.

Lledaenodd enwogrwydd Carreg Cefn y tu hwnt i’r ardal leol. Erbyn 1845, roedd cymaint â 1,000 o dunelli’n cael eu cludo o’r chwareli bob blwyddyn, llawer ohono ar hyd y gamlas. Yn y pen draw, disbyddwyd y garreg orau a bu i’r chwareli gau.

Mwy O Wybodaeth Am Tywodfaen

Gwely tywodlyd aberoedd trionglog afonydd hynafol oedd tywodfaen yn wreiddiol. Dros filiynau o flynyddoedd, cafodd y tywod ei gynhesu a’i gywasgu’n graig dan bwysau mwy o haenau’n ffurfio ar ei ben. Mae lefel uchel o grisial cwarts mewn tywodfaen, sy’n ei wneud yn galed ac yn rhoi arwyneb garw, grutiog iddo.

Clogfaen tywodfaen Sandstone boulder
Clogfaen tywodfaen ©Andrew Deathe

Roedd y tywodfaen yn cael ei weithio â llaw oddi ar wyneb y chwarel. Roedd y chwarelwyr yn torri’r graig â chŷn ac yn drilio i mewn iddi i greu craciau. Morthwyliwyd lletemau i mewn i’r craciau, gan hollti’r blociau enfawr o garreg oddi ar wyneb y graig. Yn yr hen chwareli, mae’r marciau cŷn a wnaed dros ganrif yn ôl i’w gweld o hyd.

Marciau cŷn chwarel Tan y Graig Tan y Graig quarry chisel marks
Marciau cŷn chwarel Tan y Graig ©Andrew Deathe

Mae prif strydoedd Cefn Mawr yn troelli o amgylch ymyl crib y tywodfaen. Mae nifer o’r siopau, tafarndai a thai wedi’u hadeiladu ar derasau a dorrwyd i’r graig wrth chwarelu’r garreg. Mae rhai adeiladau wedi’u gwasgu i mewn i fannau bychain ac ar onglau anarferol.

Stryd Cefn Mawr street
Stryd Cefn Mawr: Trwy garedigrwydd Amgueddfa Cefn Mawr

Mae Minshalls Croft yn un o nifer o lonydd serth, cul yng Nghefn Mawr. Incleins oedd y rhain yn wreiddiol, sef rheilffyrdd serth a oedd yn cludo’r garreg o’r chwareli i lawr i’r tramffyrdd mwy gwastad a dynnwyd gan geffyl. Roedd y rhain yn mynd â’r garreg i iardiau gwaith maen i’w torri a’u siapio, ac yna ymlaen at y gamlas neu’r rheilffordd i’w cludo i fannau eraill.

Minshall's Croft
Minshall’s Croft ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae gan yr ardal o amgylch Cefn Mawr hefyd glai ardderchog ar gyfer gwneud brics. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth brics yn llawer rhatach i’w cynhyrchu na charreg. Dim ond ar gyfer adeiladau pwysig lleol neu i’w chludo ar gyfer prosiectau mawreddog mewn mannau eraill y defnyddiwyd carreg wedyn. Mae adeiladau sy’n defnyddio’r ddau ddeunydd yn hawdd eu gweld o amgylch Cefn Mawr.

Adeilad brics a thywodfaen Brick and sandstone building
Adeilad brics a thywodfaen ©Andrew Deathe

Mae nifer o’r chwareli yng Nghefn Mawr bron wedi diflannu dan adeiladau diweddarach, ond mae un yn dal i fod ar agor yn rhannol. Mae perchennog Tan y Graig yn defnyddio carreg sydd newydd ei thorri o’r chwarel i adeiladu tai newydd ar y safle. Mae ambell i fwthyn chwarelwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd yn dal i sefyll yn y chwarel.

Chwarel Tan y Graig quarry
Chwarel Tan y Graig ©Andrew Deathe

Mae rhai o’r chwareli segur o amgylch Cefn Mawr wedi cael eu hadennill fel coetir a pharciau. Bu i’r tîm pêl-droed lleol, Derwyddon Cefn, symud eu cae i’r Graig yn 2010, ac maen nhw bellach yn chwarae dan gefndir trawiadol wynebau craig blaenorol y chwareli.

Cae pêl-droed Y Graig The Rock football ground
Cae pêl-droed Y Graig ©weallstandtogether.blogspot.com

Pan adeiladwyd dyfrbont Pontcysyllte, adeiladwyd pob piler ychydig fetrau o uchder cyn codi platfform pren rhyngddynt i gyd i greu lefel weithio ar gyfer yr uchder nesaf. Mae tyllau sy’n dangos lle’r oedd cynheiliaid y platfform wedi’u clampio i’r gwaith cerrig i’w gweld hyd heddiw.

Tyllau sgaffald platform dyfrbont Platform scaffold holes in aqueduct
Tyllau sgaffald platform dyfrbont ©Andrew Deathe

Mae rhannau uchaf pileri Dyfrbontydd y Waun a Phontcysyllte yn wag. Bu i Jessop a Telford eu dylunio fel hyn er mwyn iddyn nhw allu cynnal y pwysau uwch eu pennau, ond bod y pileri eu hunain mor ysgafn ag oedd yn bosib. Yn y Waun, mae tyllau yn y bwâu yn gadael i weithwyr cynnal a chadw fynd i mewn i’r pileri.

Model gwag dyfrbont Y Waun Hollow Chirk Aqueduct model
Model gwag dyfrbont Y Waun ©Hawlfraint y Goron: CBHC

 

Dyn yn mynd ar ddyfrbont Y Waun Man entering Chirk Aqueduct
Dyn yn mynd ar ddyfrbont Y Waun ©Harry Arnold WATERWAY IMAGES

Llwyddodd y Garreg Cefn a ddefnyddiwyd ym Mhontcysyllte i bara’n dda iawn, am dros 200 mlynedd. Fodd bynnag, cafodd ychydig flociau o dan gafn y gamlas eu difrodi gan ddŵr. Disodlwyd y rhain yn 2003 gyda charreg o’r chwareli gwreiddiol. Maen nhw’n lliw goleuach ar hyn o bryd, ond maen nhw’n siŵr o hindreulio fel yr hen flociau ymhen amser.

Bloc carreg newydd yn nyfrbont Pontcysyllte New stone block in Pontcysyllte Aqueduct
Bloc carreg newydd yn nyfrbont Pontcysyllte ©Andrew Deathe

Rhoddwyd gwead garw ar bob un o arwynebau’r blociau Carreg Cefn gan y seiri maen. Wnaiff y cerrig ddim llithro yn erbyn ei gilydd, felly dim ond haen denau o forter sydd ei angen rhyngddyn nhw. Gwnaed y morter o waed ychen, calch a dŵr. Mae’r gwaed yn cynyddu ymwrthedd y morter i newidiadau mewn tymheredd.

Manylion gwaith maen yn nyfrbont Pontcysyllte  Detail of masonry at Pontcysyllte Aqueduct
Manylion gwaith maen yn nyfrbont Pontcysyllte ©Andrew Deathe

Mae Eglwys San Silyn yn Wrecsam yn un o adeiladau canoloesol pwysicaf Cymru. Fe’i hadeiladwyd o dywodfaen Cefn yn y bymthegfed ganrif, sy’n dangos ers cymaint o amser y mae’r garreg wedi cael ei gwerthfawrogi am ei hansawdd adeiladu. Yn digwydd bod, mae tŵr yr Eglwys bron yr un uchder â dyfrbont Pontcysyllte.

San Silyn, Wrecsam St Giles, Wrexham
San Silyn, Wrecsam ©Jeff Buck / St Giles’ Church, Wrexham / CC BY-SA 2.0

Roedd Carreg Cefn yn cael ei gwerthfawrogi cymaint fel carreg adeiladu fel ei bod yn cael ei hallforio gryn bellter ar gyfer adeiladau pwysig. Ym Mangor, mae adeilad amlwg y brifysgol wedi’i adeiladu ohoni. Yn Lerpwl, mae Oriel Gelf Walker a Neuadd St George wedi’u hadeiladu’n bennaf o Garreg Cefn.

Neuadd San Siôr, Lerpwl St George's Hall, Liverpool
Neuadd San Siôr, Lerpwl ©Tony Hisgett