Froncysyllte East Limekiln Bank

Odynau Calch

Bu i’r gamlas agor marchnadoedd newydd i gynhyrchion lleol.

Disgrifiad

Mae calchfaen wedi cael ei chwarela yn nhirwedd Safle Treftadaeth y Byd ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Llosgwyd y garreg â glo mewn odynau i wneud calch brwd. Defnyddiwyd y deunydd gwyn, llychlyd hwn mewn plastr a sment ar gyfer adeiladau, neu ei wasgaru ar gaeau fel gwrtaith. Defnyddiwyd calchfaen hefyd mewn gwaith smeltio haearn. Roedd gan nifer o ffermydd a phentrefi odynau calch bychain i’w defnyddio’n lleol.

Gyda datblygiad rhwydwaith camlesi, daeth yn haws ac yn rhatach symud deunyddiau crai a chynhyrchion gorffenedig. Gellid cynhyrchu calch brwd ar raddfa ddiwydiannol bellach.

Yr enghreifftiau gorau o odynau calch sy’n dal i fodoli yw’r rhai yn Froncysyllte. Maen nhw’n edrych fel wal anferth, gyda bwâu ar y gwaelod. Daethpwyd â chalchfaen o’r chwareli y tu ôl i’r pentref ar dramffyrdd a dynnwyd gan geffyl. Daethpwyd â glo ar hyd y gamlas, neu ar drên yn nes ymlaen. Llwythwyd y garreg a’r glo mewn haenau i mewn i dop yr odyn. Taniwyd tân oddi tano. Ar ôl llosgi’r odyn ar dymheredd uchel am ddiwrnodau lawer, crafwyd y calch allan o’r bwâu a welwch chi ar y gwaelod.

Rhoddwyd gorau i ddefnyddio’r odynau erbyn 1899, ond roedd calchfaen yn dal i gael ei chwarela a’i gludo o Froncysyllte ar gychod camlas tan 1954.

Mae’r fideo hwn yn ail-greu odyn galch ym Mynydd Helygain, tua 20 milltir i’r gogledd o Froncysyllte. Mae pob odyn galch yn gweithio yn dilyn yr un egwyddor. Yn Helygain, roedd rhaid cludo pob dim mewn wagen. Gellid symud llawer mwy ar gwch camlas yn Froncysyllte. Cliciwch yma i weld y fideo.

Mwy O Wybodaeth Am Odynau Calch

Tri llun yn dangos y lanfa ger yr odynau calch yn Froncysyllte ar ddechrau’r 1900au, yn 1965 ac yn 2021. Cafodd basn y gamlas a oedd yn ffurfio’r lanfa ei lenwi yn ystod y 1930au i ffurfio’r iard a welwch chi heddiw.

C19eg llun o safle odyn C19th photo of kiln site
C19eg llun o safle odyn: Trwy garedigrwydd Keith Sinclair (Cysylltwch os mai chi sy’n berchen ar y ddelwedd hon)
1969 llun o safle odyn 1969 photo of kiln site
1969 llun o safle odyn © Alistair Holt/KDH Archive
Llun cyfoes o safle odyn Contemporary photo of kiln site
Llun cyfoes o safle odyn ©Andrew Deathe

Mae’r paentiad hwn gan yr artist Cymreig William Williams (1738-1817) yn dangos odyn galch yn y nos. Cadwyd y tanau’n llosgi am ddyddiau lawer. Gellid gweld y golau a’r mwg am filltiroedd.

Llun o odyn calch yn gweithio Painting of lime kiln working
Llun o odyn calch yn gweithio: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn y llun dyfrlliw cynnar hwn o Ddyfrbont Pontcysyllte gan John Ingleby (1749-1808), fe welwch chi fwg o odynau calch Pontcysyllte ar y bryn ar y dde.

Llun o’r ddyfrbont gydag odynau calch ar un ochr Painting of aqueduct with limekilns to one side
Llun o’r ddyfrbont gydag odynau calch ar un ochr: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae cerflun ym Masn Froncysyllte yn coffáu’r odynau calch, y chwareli a’r gweithwyr. Chwiliwch am yr offer chwarela sydd wedi’u gosod ynddo. Faint sydd yna ac i ba bwrpas oedden nhw’n cael eu defnyddio?

Cerflun o Fasn Fron Sculpture at Fron Basin
Cerflun o Fasn Fron ©Andrew Deathe

Mae odynau calch bychain bellach ynghudd yn y coed ger y llwybr halio yn Afon Bradley, ger Marina’r Waun. Roedden nhw’n gwneud calch brwd ar gyfer y morter a ddefnyddiwyd i adeiladu’r gamlas.

Odynau Afon Bradle Afon Bradley kilns
Odynau Afon Bradle ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd odynau calch Trefor Uchaf wedi’u lleoli i fyny’r allt, ger y chwareli. Cludwyd y calch brwd i lawr i’r gamlas ar dramffordd inclein. Roedd pwysau’r tramiau llawn oedd yn dod i lawr yn tynnu wagenni o lo i fyny. Fe welwch chi linell y dramffordd a phont yn mynd drosti o’r llwybr halio wrth y bont ger tafarn y Sun Trevor.

Llethr Trefor Uchaf  Trevor Uchaf incline
Llethr Trefor Uchaf ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae’r odynau calch yn Nhŷ Craig, i’r gorllewin o Langollen, bellach ynghudd mewn isdyfiant rhwng y llwybr halio a’r afon, ond fe welwch chi dŷ rheolwr y gwaith ger y gamlas.

Tŷ rheolwr odyn Tŷ Craig  Tŷ Craig kiln manager's house
Tŷ rheolwr odyn Tŷ Craig ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae’n debyg bod y rhes orllewinol o odynau calch yn Froncysyllte yn hŷn na’r rhai mwy tua’r dwyrain.

Banc odyn calch gorllewin Froncysyllte Froncysyllte west limekiln bank
Banc odyn calch gorllewin Froncysyllte ©Andrew Deathe

Mae Chwarel Pisgah, ger top y pentref, bellach yn warchodfa natur. Mae’n lle da i weld adar yn ogystal ac olion hen waith chwarel.

Gwarchodfeydd natur chwarel Quarry nature reserves
Gwarchodfeydd natur chwarel ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Dyma’r lanfa ym Mhont Trevor Sun ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Edrychwch pa mor llychlyd a budr gyda chalch brwd yr oedd o o’i gymharu â’r caeau heddiw. Pan fyddwch chi’n mynd i’r ardal, chwiliwch am y bwa ychwanegol yn y bont. Diben hwn oedd gwneud lle i dramffordd a dynnwyd gan geffyl.

Cei Sun Trefor  Sun Trevor wharf
Cei Sun Trefor ©North East Wales Archives (Ruthin)

 

Cei dan gaeau Wharf under fields
Cei dan gaeau ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae calchfaen wedi’i wneud o weddillion creaduriaid y môr a fu farw filiynau o flynyddoedd yn ôl. Weithiau, fe welwch chi ffosiliau yn y garreg, o gregyn neu strwythurau pibellog fel arfer. Anaml y gwelir y rhain yn y garreg o Froncysyllte, ond maen nhw i’w gweld yn Nhrefor Uchaf.