Windlass

Winsh

Yr allwedd i fywyd syml ar y gamlas. Mae’r agoriad yn offeryn hanfodol i ddefnyddwyr cychod a staff cynnal a chadw'r gamlas. Mae’n far metel siâp L gyda soced ar un pen. Mae’r rhoden o biniwn y llifddor yn ffitio yn y soced. Mae’r agoriad wedyn yn cael ei weindio i agor a chau’r llifddor.

Disgrifiad

Ar hyd y llwybr halio ar lannau’r gamlas fe welwch chi weithiau fecanwaith bach yn sefyll allan yn y ddaear. Mae’r mecanwaith yma’n rhan o lifddor ac, yn debyg iawn i fynydd iâ, mae’r rhan fwyaf ohono’n cuddio o dan y ddaear.

Yr unig ran o lifddor a welwch chi fel arfer ydi’r ddyfais fecanyddol sy’n cynnwys handlen neu winsh i agor a chau’r gât. Mae’r llifddor ei hun yn gât lithro fertigol o dan y ddaear neu’r dŵr. Mae yno ddraen neu geuffos yn y ddaear hefyd.

Mae llifddor yn rheoli lefel y dŵr mewn rhannau gwahanol o’r gamlas drwy adael i ddŵr lifo i mewn neu allan neu’i atal. Gall hyn helpu i atal llifogydd neu wagio rhannau o’r gamlas er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.

Mae llifddorau, coredau, ceuffosydd a sianeli gorlif yn enghreifftiau o beirianweithiau y mae pobl wedi’u defnyddio ers miloedd o flynyddoedd, a llawer ohonyn nhw heb newid rhyw lawer dros y canrifoedd.

Yn ogystal â dŵr ar gyfer y cannoedd o gychod sydd yn ei defnyddio, mae ar Gamlas Llangollen angen dŵr i gyflenwi dŵr yfed i drigolion gogledd orllewin Lloegr.

Mae llifddorau a mathau eraill o beirianneg dŵr yn helpu i gynnal llif y dŵr, o afon Dyfrdwy yn Rhaeadr y Bedol, ar draws y Safle Treftadaeth y Byd, i Swydd Amwythig.

Mae llifddorau’n rhan bwysig o lociau, sy’n codi ac yn gostwng cychod i wahanol lefelau. Mae’r ffilm hon yn dangos sut maen nhw’n gweithio. Crëwyd y ffilm ar gyfer rhaglen addysgol Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Mwy O Wybodaeth Am Winsh

Mae llifddor yn argae bychan sy’n stopio dŵr rhag llifo drwy sianel, ond y mae modd ei godi neu ei hagor pan fydd angen llif. Mae’r gât wedi’i dal yn ei lle mewn slot, bob ochr i’r sianel. Pan fydd y panel yn cael ei godi mae’r dŵr yn llifo oddi tano.

Llifddor Sluice
Llifddor

Dyma’r rhan o’r llifddor y byddwch chi’n ei gweld fel arfer wrth ymyl y gamlas. Mae iddo fecanwaith rhac a phiniwn sydd wedi’i wneud o haearn bwrw a’i folltio ar lechfaen. Mae’n sownd wrth gât o dan y ddaear. Mae’r gât yn atal y dŵr rhag llifo allan o’r gamlas.

Dyluniad porth llifddor sylfaenol Basic sluice gate design
Dyluniad porth llifddor sylfaenol ©Anup Sadi

Mae mecanwaith rhac a phiniwn yn trosi’r symudiad cylchol yn symudiad llinellol fertigol neu lorweddol. Mae’r piniwn yn olwyn gyda dannedd sy’n cylchdroi. Mae’n tynnu neu’n gwthio’r dannedd cyfatebol ar far, o’r enw rhac. Mewn llifddor mae’r rhac yn symud y gât i fyny neu i lawr i reoli llif y dŵr.

Rac a phiniwn Rack and pinion
Rac a phiniwn ©Jahobr

Llifddorau bychain, a weithredir gyda llaw, ydi’r rhan fwyaf o lifddorau Camlas Llangollen. Yn Rhaeadr y Bedol ceir cyfres llawer mwy o lifddorau a weithredir gyda chyfrifiadur. Mae’r cyfrifiadur yn mesur y dŵr o afon Dyfrdwy i’r gamlas ac yn gwneud yn siŵr bod y llifddorau ar agor neu ar gau i gadw lefel y dŵr yr un fath.

Tŷ mesurydd, Rhaeadr y Bedol Meter house, Horseshoe Falls
Tŷ mesurydd, Rhaeadr y Bedol ©Trefor Jones

Argae ydy cored sy’n gadael i’r dŵr lifo drosto. Dydi cored ddim yn dal dŵr yn ôl ond, yn hytrach, mae’n cynnal lefel dŵr gyson yn yr afon uwchben. Yn Rhaeadr y Bedol mae’r gored yn galluogi llif cyson o ddŵr i’r gamlas.

Cored Rhaeadr y Bedol Horseshoe Falls weir
Cored Rhaeadr y Bedol ©Pacer-Pete, CC BY-SA 4.0, via Wikimedia Commons

I fesur lefel y dŵr a gwneud yn siŵr ei fod yn aros yr un fath, mae marcwyr uchder syml yn cael eu gosod yn erbyn ochr y gamlas. Gallwch weld y dyfnder ar gipolwg. Ers talwm byddai gweithwyr y gamlas yn gwirio uchder y dŵr yn rheolaidd ond, erbyn heddiw, mae yna ddyfeisiau electronig sy’n anfon lefel y dŵr i gyfrifiadur canolog.

Mesur lefel Level measure
Mesur lefel ©Andrew Deathe

Yn Llangollen cymerwyd dŵr o’r gamlas drwy lifddor a oedd yn gyrru’r dŵr wedyn i dyrbin dŵr a oedd yn pweru fframiau gwau’r felin wlân. Fel rheol does gan gamlesi ddim digon o ddŵr i wneud y math yma o beth, ond mae Camlas Llangollen yn unigryw oherwydd y swm aruthrol o ddŵr sy’n llifo’n barhaus ynddi.

 

Llifddor Melin Wlân y Ddyfrdwy Dee Woolen Mill sluice
Llifddor Melin Wlân y Ddyfrdwy ©Amgueddfa Llangollen

Mae’r dŵr sy’n mynd trwy lifddor yn mynd i mewn i sianel danddaearol a chul o’r enw ceuffos. Yr unig ran a welwch chi ydi’r allfa, sy’n rhyddhau’r dŵr i ffos, nant neu afon. Mae ceuffosydd hefyd yn gallu cludo nentydd o dan y gamlas. Mae hyn wedyn yn cadw’r nant rhag difrodi’r gamlas neu achosi llifogydd.

Allfa cylfat Culvert outlet
Allfa cylfat ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae afon Bradle yn nant fawr ger y Waun sy’n llifo i’r gamlas. Mae cored orlif, a grëwyd gerllaw gan Jessop a Telford, yn lleihau’r perygl llifogydd. Mae’r dŵr dros ben yn y gamlas yn draenio dros y gored i geuffos sy’n llifo o dan wely’r gamlas a’r llwybr halio i wely’r hen nant.

Gorlif Afon Bradle Afon Bradley overflow
Gorlif Afon Bradle ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Fe geir cored orlif ym Masn Trefor, sy’n cuddio o dan y llwybr halio yn union cyn Dyfrbont Pontcysyllte. Mae’r geuffos yn agor i sianel frics i lawr yr afon. Dyluniodd y peirianwyr hon i gludo dŵr dros ben oddi wrth lanfeydd y ddyfrbont, er mwyn eu rhwystro rhag erydu.

Sianel gorlif basn Trefor  Trevor Basin overflow channel
Sianel gorlif basn Trefor ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Pwrpas lociau ydi codi a gostwng cychod i wahanol lefelau o’r gamlas. Mae’r llifddorau, neu’r ‘padlau’, yn cael eu defnyddio i lenwi neu wagio loc. Mae gwaelod y padl yn sownd wrth gât ac mae rhoden hir ar hyd braich y loc yn caniatáu i bobl ddefnyddio’r mecanwaith ar lan y gamlas.

Mecanwaith ar lifddor mechanism on lock gate
Mecanwaith ar lifddor: “Gears” by Clint Budd is licensed under CC BY 2.0

Pob dydd mae oddeutu 12 miliwn o dunellau (55 miliwn litr) o ddŵr yn llifo ar hyd Camlas Llangollen. Defnyddir y rhan helaeth ohono fel dŵr yfed yn Swydd Gaer. Ym mhen draw’r gamlas, ar gyffordd gyda Chamlas Undeb Swydd Amwythig, ceir llifddor sy’n gadael rhywfaint o’r dŵr i Gronfa Ddŵr Hurleston.

Cronfa Ddŵr Hurleston Reservoir
Cronfa Ddŵr Hurleston: Espresso Addict / Feed to Hurleston Reservoir: view SE / CC BY-SA 2.0