Narrows at Cross Street aqueduct

Estyll Atal

Teclynnau syml ar gyfer gwaith pwysig.

Disgrifiad

Mewn mannau ar hyd y gamlas lle mae’n culhau, mae’n bosibl y sylwch chi ar gwteri fertigol sydd wedi’u torri mewn i’r gwaith maen ar bob ochr. Mae’r rhain ar gyfer dal estyll atal. Mae’n debyg na welwch chi’r estyll yn eu lle, ond fe allant fod gerllaw, yn cael eu storio mewn storfa ger y llwybr halio.

Mae estyll atal yn declynnau pwysig i gynnal a chadw’r gamlas. Estyll syml o bren gyda bracedi metel ar y ddau ochr ar gyfer handlenni ydynt, ac mae’n hawdd eu hanghofio. Ond fe allant arbed camlas rhag dymchwel neu redeg yn sych.

IOs bydd camlas yn dechrau gollwng, neu angen cael ei ddraenio ar gyfer gwaith trwsio, mae’r estyll atal yn cael eu gostwng mewn i’r cwteri ar ddiwedd pob rhan. Mae’r estyll yn cael eu gosod ar ben ei gilydd i ffurfio argaeau. Gellir pwmpio’r dŵr allan rhwng y ddau argae, gan ddatguddio gwaelod y gamlas ar gyfer gwaith trwsio. Mae lefel y dŵr yn parhau’n uchel naill ochr i’r argaeau ac mae modd parhau i ddefnyddio’r gamlas.

Mae estyll atal yn ddatrysiad peirianyddol syml ond effeithiol. Cawsant eu defnyddio gyntaf dros 200 mlynedd yn ôl, ac nid yw’r broses wedi newid llawer ers hynny, gan eu bod yn dal i wneud y gwaith yn berffaith.

Mae Geoff Pursglove yn Swyddog Prosiect Camlesi ar gyfer Camlas Ashby yn Swydd Gaerlŷr. Yn y ffilm yma mae’n sôn am sut y bu ffermwr, chwaraewyr rygbi lleol a gwirfoddolwyr eraill yn rhoi estyll atal yn eu lle pan orlifodd y gamlas yn mis Rhagfyr 2020. Cliciwch yma i weld y fideo.

Mwy O Wybodaeth Am Estyll Atal

Yn Rhaeadr Y Bedol, mae yna storfa fawr ar gyfer estyll atal. Mae’r adeilad carreg bychan gerllaw yn ystafell i weithwyr o’r 19eg Ganrif, lle gallai gweithwyr cynnal a chadw’r gamlas stopio a chael paned a chynhesu ger tân bychan.

Storfa astell atal Rhaeadr y Bedol Horseshoe Falls stop plank store and mess
Storfa astell atal Rhaeadr y Bedol ©Andrew Deathe

Mae’r storfa estyll atal yma yng ngardd Bwthyn Llanddyn. Fe adeiladwyd y tŷ yn wreiddiol ar gyfer fforddolwyr y gamlas. Eu swydd nhw oedd patrolio hyd o’r gamlas ac adrodd neu drwsio unrhyw ddifrod. Roedd estyll atal yn declyn pwysig ar gyfer eu gwaith.

Lloches estyll atal Bwthyn Llanddyn  Llanddyn Cottage stop plank shelter
Lloches estyll atal Bwthyn Llanddyn ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Gellir esgeuluso cwteri estyll atal yn hawdd gan eu bod yn eithaf cyffredin. Cadwch lygad amdanynt lle bynnag y mae’r gamlas yn culhau, yn enwedig ger pontydd. Maent bob amser yn digwydd mewn parau, un gyferbyn â’r llall bob ochr. Mae’r rhain wrth ymyl Bont Banc y Waun.

Stop plank grooves at Chirk Bank
Cwteri Estyll Atal yn Chirk Bank ©Andrew Deathe

Yn draddodiadol mae estyll atal wedi’u gwneud o bren trwm, dwys megis derw. Pan fyddant yn eu lle, caiff unrhyw fylchau eu llenwi gyda chymysgedd o glai a lludw. Mae’r estyll yma ar Gamlas Caldon yn defnyddio lludw o Amgueddfa Ddiwydiannol Etruria Potteries.

Estyll atal yn cael eu defnyddio ar Gamlas Caldon Stop planks in use on Caldon Canal
Estyll atal yn cael eu defnyddio ar Gamlas Caldon ©Canal & River Trust

Enw’r bracedi ar bob ochr i estyll atal yw styffylau. Yma gallwch weld sut mae rhaffau yn cael eu cysylltu i ostwng yr estyll trwm mewn i’r cwteri. Rhuthrodd y gwirfoddolwyr yma i helpu wrth i ddŵr ddianc o Gamlas Ashby yn Swydd Gaerlŷr.

Defnyddio staplau i ostwng astell  Using staples to lower a plank
Defnyddio staplau i ostwng astell ©Geoff Pursglove

Pan fydd camlas yn gollwng ac yn gorlifo ei glannau, mae’r dŵr yn cael ei golli’n gyflym iawn yn aml. Gall estyll atal y naill ochr i’r toriad helpu er mwyn cadw lefelau’r dŵr yn uchel nes bod y toriad yn cael ei drwsio. Gadawodd toriad ym Mryn Howel yn 1960 gychod yn sownd yn y gamlas wag.

Bwlch Bryn Howel Bryn Howel breach 1960
Bwlch Bryn Howel 1960: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.1.36.7.8

Gellir gweld maint y difrod a achoswyd gan doriad ar Gamlas Llangollen yn Middlewich yn 2018. Cymerodd sawl mis i’w drwsio a chostiodd dros £3miliwn i’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Llun drôn o fwlch Middlewich  Drone photo of Middlewich breach
Llun drôn o fwlch Middlewich ©John Bancroft

Mae estyll atal hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith trwsio cyffredinol ar y gamlas. Mae’r rhain yn eu lle ar Ddyfrbont y Waun, er mwyn gwagio’r cafn i gael ei lanhau. Draeniodd y pwmp ar y chwith y dŵr ar un ochr, gan adael dŵr yn y basn yn Nhwnnel Y Waun.

Estyll yn cael eu defnyddio ar Ddyfrbont Y Waun Planks in use on Chirk Aqueduct
Estyll yn cael eu defnyddio ar Ddyfrbont Y Waun: Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive, bw 192.3.2.5.2.40

Gan fod Camlas Llangollen yn darparu cyflenwad dŵr cyhoeddus ar gyfer de Swydd Gaer, nid oes modd amharu ar lif y dŵr am gyfnodau hir. Ar gyfer y cyfnodau arferol y mae Dyfrbont Pontcysyllte yn cael ei draenio ar gyfer gwaith cynnal a chadw, mae gorsaf bwmpio wedi cael ei adeiladu i ddod â dŵr o Afon Dyfrdwy i fyny’r gamlas ym Mroncysyllte.

Pumping Station at Frontcysyllte
Gorsaf bwmpio ym Mroncysyllte ©Andrew Deathe