Replaced bolt from Pontcysyllte Aqueduct

Bollt Dyfrbont

Un o oddeutu 500 o nytiau a bolltau haearn gyr a ddisodlwyd wrth adnewyddu’r ddyfrbont yn 2003-4. Roedd y rhai newydd wedi'u gwneud o haearn wedi'i ailgylchu.

Disgrifiad

Roedd y cafn sy’n cludo’r gamlas ar draws Dyfrbont Pontcysyllte yn gampwaith technolegol pan gafodd ei adeiladu. Nid yw wedi’i newid na’i ragori ar ôl dros 200 o flynyddoedd.

Roedd William Jessop a Thomas Telford yn rhan o’r gwaith i adeiladu’r dyfrbontydd haearn cyntaf ar gamlesi Lloegr. Roedd y dechneg mor newydd fel bod buddsoddwyr y gamlas yn amau a fyddai’n gweithio ym Mhontcysyllte. Awgrymwyd dyfrbont garreg draddodiadol yn is yn y dyffryn, gyda lociau a fyddai wedi arafu’r traffig. Llwyddodd Jessop i berswadio’r cwmni i ymddiried yn y dyluniad haearn bwrw yr oedd ef a Telford wedi’i gynnig.

Athrylith cafn y ddyfrbont yw ei symlrwydd. Nid oes unrhyw ran o’r strwythur nad oes angen bod yno. Defnyddiodd Telford a Jessop dechnoleg haearn bwrw, oedd yn newydd yn Ewrop ar y raddfa hon, i gynhyrchu sianel gref ond eithaf ysgafn ar gyfer y gamlas; syml, ond perffaith ar gyfer y dasg; ymarferol ond yn hardd.

Mewn dros 200 o flynyddoedd ni chafwyd unrhyw ollyngiad na methiant mawr ar Ddyfrbont Pontcysyllte. Mae dros 90% o’r gwaith haearn gwreiddiol yn parhau i fod yno, ac nid yw’r dyluniad erioed wedi’i wella na’i newid. Os ydych yn croesi Dyfrbont Pontcysyllte mewn cwch neu wrth gerdded, mae’r hyn sydd oddi tanoch yn gampwaith peirianneg.

Mae’r ffilm yn dangos y broses adeiladu gyfan ar gyfer Dyfrbont Pontcysyllte, o sylfeini’r colofnau cerrig i’r platiau haearn bwrw yn cael eu bolltio ynghyd i ffurfio’r cafn ar ben y gamlas.

Mwy O Wybodaeth Am Bollt Dyfrbont

Mae’r cafn wedi’i wneud o blatiau haearn bwrw wedi’u gosod dros fwâu haearn rhwng bob piler carreg. Mae mwy o blatiau yn ffurfio’r ochrau. Mae gan bob plât fflans ar bob ochr, ymyl wedi’i droi ar ongl sgwâr. Mae’r fflansys wedi’u bolltio at ei gilydd i greu’r strwythur. Nid yw’r cafn wedi’i folltio i’r bwâu na’r gwaith cerrig, mae’n cael ei ddal yn ei le gyda’i bwysau ei hun.

Adluniad digidol o’r cafn sylfaenol Digital reconstruction of the basic trough
Adluniad digidol o’r cafn sylfaenol ©Hawlfraint y Goron: CBHC

 

Dyfrbont Longdon-on-Tern oedd y ddyfrbont haearn gyntaf yr oedd Telford yn rhan o’r gwaith adeiladu ar ei chyfer. Mae’n dal i sefyll hyd heddiw, ar Gamlas Amwythig yn Lloegr, ond nid oes modd mordwyo arni bellach. Mae’n llawer byrrach ac is na Dyfrbont Pontcysyllte ond byddai Telford wedi dysgu gwersi o’r gwaith adeiladu.

Dyfrbont Longdon aqueduct
Dyfrbont Longdon ©Chris Allen

Mae Dyfrbont y Waun, a gwblhawyd bedair blynedd cyn dyfrbont Pontcysyllte ym 1801, yn defnyddio gwaith cerrig maen traddodiadol ar gyfer y bwâu a’r strwythur ond mae platiau haearn bwrw ar gyfer gwely’r gamlas, yn lle clai dros gerrig. Ym 1870 ychwanegwyd platiau haearn i ochrau’r cafn ond nid ydynt yn rhan o ddyluniad gwreiddiol Telford.

Chirk aqueduct, drained
Dyfrbont y Waun wedi’i draenio: bw 192.3.2.5.2.39 Cyflenwyd gan Canal & River Trust, National Waterways Archive

Dim ond 25mm (modfedd) o drwch sydd i bob plât haearn bwrw yn Nyfrbont Pontcysyllte, hyd yn oed y gwaelod. Dyna’r oll sy’n gwahanu bron i 1500 tunnell o ddŵr â chwymp o 38 medr i’r dyffryn. Mae haearn bwrw yn ddeunydd anhyblyg. Nid yw pwysau’r dŵr yn gwneud iddo blygu.

Thickness and flanges of aqueduct plates
Tewdra a chantelau platiau’r ddyfrbont: Trwy garedigrwydd Grace’s Guide to British Industrial History

Nid oedd y cymalau lle bo’r fflansys wedi’u bolltio gyda’i gilydd yn ddigon tynn i atal y dŵr rhag mynd trwyddynt. I’w selio’n llwyr, gorchuddiwyd gwlanen Gymreig â phlwm gwyn a’i roi rhwng bob plât. Rholiwyd cywarch, a ddefnyddiwyd i wneud rhaff, mewn tar a’i daro â morthwyl i unrhyw fwlch oedd ar ôl.

Flannel samples
Samplau gwlanenni ©Ceiriog Memorial Institute

Rhwng bob un o’r pileri carreg, mae’r cafn yn cael ei gynnal gan bedwar bwa haearn bwrw. Mae modd gweld y rhain yn glir o’r llwybrau troed o dan bob pen i’r ddyfrbont. Lluniwyd pob bwa mewn tair rhan a’u bolltio at ei gilydd. Mae platiau haearn wedi’u gosod ar y bwâu allanol yn rhoi mwy o gryfder ac edrychiad cadarn iddynt.

Four arches beneath trough
Pedwar bwa o dan y cafn ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Nid yw’r bwâu haearn wedi’u bolltio i’r cerrig ond i sylfeini metel, sydd wedi’u hadeiladu ar ben y pileri. Mae siâp y bwâu yn gwthio pwysau’r cafn i’r platiau ac yna’r uniongyrchol i lawr ar y pileri, yn hytrach na gwthio i’r cerrig a chreu perygl y gallant syrthio drosodd.

Iron footings on stone piers
Sylfeini haearn ar bileri cerrig ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae voussoir, neu batrwm siâp lletem ar ochr y cafn yn adlewyrchu’r siapiau yn y bwâu cerrig. Mae’n parhau ar y bwâu haearn bwrw oddi tanynt. Ond yn wahanol i’r voussoirs carreg, nid yw’n ychwanegu unrhyw gryfder i strwythur y ddyfrbont. Defnyddiodd Telford hyn fel dyluniad deniadol, nid er budd peirianyddol.

Side view of one span of trough
Golwg o’r ochr ar rychwant cafn ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Bob pum mlynedd mae’r ddyfrbont yn cael ei chau ar bob pen a’i gwagio i’w glanhau. Mae handlen ar hyd y llwybr yn cael ei thynnu gan dynnu plwg syml o waelod y cafn. Mae’n cymryd dwy awr i wagio 1.5 miliwn litr o ddŵr i’r afon islaw.

Empty trough and archaeologist next to plug
Cafn gwag a Chynghorwr Treftadaeth wrth ymyl plwg ©Canal & River Trust

Mae dŵr y gamlas yn llenwi’r cafn cyfan, hyd yn oed o dan y llwybr. Pan fydd cychod yn croesi’r ddyfrbont, mae’r dŵr yn cael ei wrtho i’r ochr i’r gofod hwn. Pe bai’n rhaid gwthio’r dŵr o flaen y cychod, byddai’n anodd symud ymlaen. Mae ategion haearn yn cynnal y llwybr.

Trough showing water goes under towpath
Cafn yn dangos dŵr yn mynd o dan lwybr tywys ©Andrew Deathe

Ni fu unrhyw reiliau ar ochr y gamlas o’r cafn erioed. Nid oes eu hangen ar gyfer diogelwch a byddent wedi ychwanegu pwysau diangen i’r strwythur. Mae tyllau ar eu cyfer ond dim ond am bod y mowldiau ar gyfer yr ochrau haearn bwrw yr un fath â’r rhai ar gyfer ochr y llwybr, ble mae rheiliau.

Holes for railings on canal side
Tyllau ar gyfer rheiliau ar ochr y gamlas ©Andrew Deathe