Plât rhif pont

Pontydd

Cynnal llif y traffig ar y gamlas a throsti. Mae’r pontydd ar draws Camlas Llangollen wedi’u rhifo mewn dau gyfeiriad, gan ddechrau o Gyffordd Frankton yn Swydd Amwythig. Mae’r rhifau sy’n dechrau ag ‘E’ yn mynd tua’r dwyrain a’r rhifau sy’n dechrau ag ‘W’ yn mynd tua’r gorllewin. Pont Cledrid yw man cychwyn y Safle Treftadaeth y Byd a’i rhif yw 19W. Y man terfyn yw Traphont Pont y Brenin yn Llantysilio sydd â’r rhif 49WA.

Disgrifiad

Gan fod Camlas Llangollen wedi’i hadeiladu dros ddau gan mlynedd yn ôl, mae’n anodd dychmygu ei bod unwaith wedi torri drwy dirwedd o ffyrdd a chaeau a oedd yno o’i blaen. Bu’n rhaid adeiladu pontydd dros y gamlas ar gyfer y ffyrdd ac i alluogi ffermwyr a thrigolion lleol i gael mynediad at eu heiddo. Mae pontydd mor bwysig fel bod dyletswydd gyfreithiol i’w hadeiladu wedi’i chynnwys yn y deddfau seneddol a roes sêl bendith i’r gamlas.

Dyluniodd Telford a Jessop y bont drwy ddull safonol y gellid ei addasu ar gyfer pobman arall ble’r oedd angen croesi’r gamlas. Defnyddiwyd pontydd codi a phontydd troed hefyd mewn mannau ar gyfer gwahanol fathau o draffig.

O blith yr un ar ddeg ar hugain o bontydd sy’n mynd dros y gamlas heddiw, mae tair ar hugain ohonynt yn rhai gwreiddiol a adeiladwyd rhwng 1794 a 1805. Adeiladwyd pontydd yn ddiweddarach ar gyfer rheilffyrdd a ffyrdd newydd ar draws y camlesi, ac fe aeth rhai o’r hen bontydd i ebargofiant cyn cael eu dymchwel.

Mae dyfrbontydd yn cyfrif hefyd, wrth gwrs, ond gyda chamlesi’n mynd drostynt yn hytrach na ffyrdd. Yna mae traphontydd, sy’n bontydd hir sy’n cynnal ffyrdd neu reilffyrdd. Mae twnelau’n mynd i’r gwrthwyneb, gan gludo systemau trafnidiaeth yn ddwfn o dan y ddaear yn hytrach na fry uwchben. Fe ddewch chi o hyd i bob un o’r rhain, ar lawer o wahanol ffurfiau, ymhob cwr o’r Safle Treftadaeth y Byd.

Mae’r ffilm hon yn olrhain taith cwch cul o Langollen i bont Sun Trevor. Mae’n mynd o dan lawer o bontydd, gan gynnwys y bont godi yn Llanddyn a nifer o groesfannau gwreiddiol Telford dros y gamlas. Gwelir hefyd mor anodd yw mordwyo ar hyd y rhan gul hon o’r gamlas, yn enwedig felly’r tro cul o dan bont Wenffrwd.

Mwy O Wybodaeth Am Pontydd

Mae’r un dyluniad safonol i’w weld ar nifer o bontydd ar hyd y gamlas. Pont grom syml sydd â bwa sydd ond yn ddigon llydan ar gyfer un cwch a’r llwybr halio. Enghraifft dda o’r dyluniad gwreiddiol yw Pont Plas-yn-y-Pentre, rhif 34W.

Plas yn y Pentre, 34
Plas yn y Pentre, 34 © Hawlfraint y Goron: CBHC

I adeiladu bwa gosodir y meini dros sgaffald pren crwm. Wedi tynnu’r sgaffald mae pwysau pob maen yn gwthio i lawr ar y rhai islaw ac yn dal popeth yn ei le. Mae darlun Richard Colt Hoare o waith adeiladu Dyfrbont y Waun yn dangos fod Jessop a Telford wedi defnyddio’r dull hwn.

build an arch - Chirk
Adeiladwch fwa – Y Waun ©Amgueddfa Cymru

Arbrofodd Jessop a Telford â gosod trawstiau haearn bwrw yn rhai o’u pontydd. Roedd yr ategion hynny’n golygu y gallai’r bwa fod yn fwy gwastad nag un mewn pont a wnaed o feini neu frics yn unig. Mae’r tair pont ar hyd y gamlas ymysg yr enghreifftiau cynharaf yn y byd sy’n dal yn gyfan. Pont Rhos y Coed yw hon ym Masn Trefor, rhif 31W.

Rhos y Coed, 31
Rhos y Coed, 31 cc-by-sa/2.0 – © Roger Kidd – geograph.org.uk/p/5418345

Gellid addasu’r dyluniad safonol wrth adeiladu pontydd ar wahanol dirweddau. Weithiau roedd yn rhaid creu bwâu llydan iawn ar droeon camlesi. Roedd lloriau rhai o’r pontydd ar oleddf ble’r oedd y ffordd yn dod i lawr llethr neu fryn. Gwelir dyluniad fel hyn ar Bont Bryn Ceirch, rhif 36W.

Bryn Ceirch, 36
Bryn Ceirch, 36 cc-by-sa/2.0 – © Richard Law – geograph.org.uk/p/5613983

Mae’r ffordd sy’n mynd dros Bont y Gwyddelod, rhif 27W, yn llawer uwch dros y gamlas na’r rhan helaeth o bontydd eraill. Mae’r gamlas yn mynd drwy doriad dwfn yn y fan hon. Addaswyd y dyluniad fel bod y llawr ar ben y bont yn aros yn wastad, ac roedd y pentanau i ategu’r bont yn uchel iawn.

Irish, 27
Gwyddelig, 27 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Erbyn heddiw pont droed yw Pont Postle, rhif 32W, gerllaw Basn Trefor, ond pan y’i hadeiladwyd yn wreiddiol roedd hi’n bont newid ochr. Câi ceffylau a oedd yn tynnu cychod cul eu tywys o dan y bont ac yna drosti i’r llwybr halio ar ochr arall y gamlas, heb orfod tynnu’r rhaff oddi ar y cwch.

Postle's, 32
Postle’s, 32 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Ym Masn Trefor mae pont droi bren wreiddiol yn croesi’r mynedfeydd i ddau o ddociau sych. Mae’r bont yn troi yn y canol gan adael i gychod fynd heibio. Gellir gwagio’r dŵr i gyd o’r dociau hefyd er mwyn archwilio cychod, eu trwsio neu’u glanhau.

Swivel bridge, Trevor Basin Pont fwylltid, basn Trefor
Pont fwylltid, Basn Trefor ©Andrew Deathe

Pan ddatblygwyd y rheilffordd i Langollen ddechrau’r 1860au roedd angen adeiladu’r unig bont reilffordd sy’n mynd ar draws y gamlas o fewn ffiniau’r Safle Treftadaeth y Byd. Mae gan bont rhif 39W ym Mryn Howel bentanau cerrig, ond ychwanegwyd llawr concrit yn ddiweddarach. Heddiw fe’i defnyddir i gael mynediad at gaeau a dim arall.

Bryn Howel Railway, 39 Rheilffordd Bryn Howel, 39
Rheilffordd Bryn Howel, 39 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae pont anghyffredin yn Sun Trevor, rhif 41W, â dau fwa. Ar ochr arall y gamlas gyferbyn â’r llwybr halio, llwythid calch o’r chwareli ar y bryn ar gychod. Câi’r calch ei gludo i’r cei mewn tramiau wedi’u tynnu gan geffylau ar hyd cledrau oedd yn mynd drwy’r bwa lleiaf.

Sun Trevor, 41 Sun Trefor, 41
Sun Trefor, 41 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Wrth i geir a cherbydau trwm ddod yn bethau cyffredin ar y ffyrdd yn yr ugeinfed ganrif, lledwyd y briff ffordd o Langollen i Drefor. Adeiladwyd pont goncrit gyfoes, rhif 42W, yn Wenffrwd. Nid yw’r rhain yn cael llawer o glod na sylw, ond maent yr un mor bwysig ac effeithiol â’r pontydd cynharach wedi’u gwneud o gerrig.

Wenffrwd, 42
Wenffrwd, 42 cc-by-sa/2.0 – © Richard Rogerson – geograph.org.uk/p/4298228

Saif un o’r pontydd mwyaf poblogaidd yn yr ardal fwy na 30 metr islaw lefel y gamlas. Mae Pont Cysylltau, a roes fenthyg ei henw i’r Draphont Ddŵr fyd-enwog, wedi croesi Afon Dyfrdwy ers 1697. Mae’n lle poblogaidd i bobl dynnu lluniau o’r bont fwyaf.

Pont Cysylltau
Pontcysyllte cc-by-sa/2.0 – ©Colin Park – geograph.org.uk/p/4670053

Pont Gledrid, rhif 19W, yw’r unig bont safonol yn y Safle Treftadaeth y Byd sydd wedi’i gwneud o frics yn bennaf, ond mae pontydd fel hyn yn fwy cyffredin ar y rhan o’r gamlas sy’n mynd drwy Loegr. Y rheswm am hynny yw bod y gamlas heb gyrraedd ardaloedd â meini gwerth chweil ar gyfer adeiladu nes iddi fynd heibio’r fan hon.

Gledrid, 19
Gledrid, 19 cc-by-sa/2.0 – ©Roger Kidd – geograph.org.uk/p/4853895

Adeiladwyd rhannau o’r twnelau yn y Waun a Whitehouse mewn ffordd debyg i bontydd. Cloddiwyd toriad dwfn yn ochr y bryn ar gyfer y gamlas. Adeiladwyd y twnnel ar ffurf bwa o frics uwchben a gorchuddiwyd popeth â chlai a phridd. Roedd hynny’n fwy diogel na thurio drwy’r bryn.

Twnnel Whitehouses Tunnel
Twnnel Whitehouses ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Ar yr olwg gyntaf fe welwch chi dwnnel byr ar y ffordd yn Cross Street, ond dyfrbont sydd yma mewn gwirionedd sydd â’r gamlas yn mynd drosti. Defnyddiwyd y twnnel yn wreiddiol i gael mynediad i’r fferm gerllaw ond yn y pen draw fe’i trowyd yn ffordd dramiau i gysylltu odynnau calch Froncysyllte â’r brif reilffordd ger Pont y Gwyddelod.

Cross Street Aqueduct Dyfrbont Cross Street
Dyfrbont Cross Street ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae pontydd codi’n galluogi pobl i dramwyo dros y gamlas mewn mannau lle nad oes digon o le ar gyfer pont gyflawn. Mae gwrthbwys yn ei gwneud yn hwylus i godi a gostwng y bont fel y gall cerbydau neu gychod fynd heibio. Defnyddir pont 44W i gael mynediad i’r cae yn Llanddyn.

Llanddyn lift bridge, 44 Pont godi Llanddyn
Pont godi Llanddyn, 44 ©Andrew Deathe

Mae rhai pontydd dros y gamlas wedi’u dymchwel neu wedi mynd i ebargofiant. Ni allwn ond dychmygu Pont Quinta, rhwng Gledrid a Chirk Bank, gan fod y gamlas yn culhau lle safai’r bont. Ger Marina’r Waun fe welir adfeilion pentanau’r Bont Goch ar lannau’r gamlas.

Red Bridge remains Gweddllion Pont Goch
Gweddllion Pont Goch ©Andrew Deathe

Ar y dechrau roedd yno dair o bontydd troed yn mynd dros y gamlas. Adeiladwyd Pont Woodlands, ger Chirk Bank, ar gyfer gweithwyr y pwll glo lleol. Dim ond un golofn sydd ar ôl bellach. Erys colofnau a rampiau Pont Postle, rhif 32W, a’r Bont Wen, rhif 33W, ond mae eu lloriau’n rhai newydd.

White Bridge, 33  Post Wen
Pont Wen, 33 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Pontydd hir yw traphontydd sy’n cynnal ffyrdd neu reilffyrdd uwchben dyffrynnoedd. Dyluniwyd y traphontydd bendigedig sy’n mynd â’r rheilffordd heibio’r Waun a Chefn gan y peiriannydd Henry Robertson. Edmygai’r dyfrbontydd a ddyluniodd Telford a Jessop ar gyfer y gamlas, a dymunai i’w strwythurau yntau fod llawn mor brydferth. Ef hefyd a adeiladodd y Bont Gadwyn ger y gamlas yn Llantysilio.

Chirk Viaduct Traphont y Waun
Traphont y Waun ©Akke Monasso