Tourists at the wharf

Twristiaeth

Gweld y golygfeydd, ar y gamlas ac o’i hamgylch.

Disgrifiad

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd gogledd Cymru yng nghanol y twf o ran twristiaeth ym Mhrydain. Roedd y dosbarth canol, a oedd ar gynnydd, yn gwneud arian yn y dinasoedd diwydiannol ond hefyd roeddent eisiau dianc o’r dinasoedd hynny a dod o hyd i gefn gwlad a oedd yn heddychlon a heb ei ddifetha.

Roedd Dyffryn Llangollen yn cael ei ystyried fel ardal hynod o brydferth i ymweld â hi. Roedd y dirwedd yn gymysgedd o wastadeddau hyfryd, gwyrdd a hefyd mynyddoedd a oedd yn uchel ond yr oedd modd eu cyrraedd. Roedd y dref yn fach ond roedd yma sawl gwesty mawr, nifer ohonynt yn cynnwys telynorion preswyl a oedd yn diddanu’r gwesteion ac roedd teithiau tywys a thripiau yn cael eu trefnu i safleoedd fel Abaty Glyn y Groes a Chastell Dinas Brân.

Adeiladwyd y gamlas fel datblygiad diwydiannol, ond yn fuan roedd yn cael ei hystyried fel llwybr cerdded braf gyda golygfeydd o Ddyffryn Dyfrdwy. Roedd y ddwy ddyfrbont a’r twnelau yn destun edmygedd yr ymwelwyr. Nododd nifer ohonynt fod yr adeileddau yn cyd-fynd mor dda â’r amgylchedd naturiol tra ar yr un pryd roeddent yn canmol y nodweddion peirianyddol.

Wnes i erioed deimlo dylanwad yr aruchel yn cyfuno gyda’r prydferth cyn ddyfned â phan yr oeddwn yn sefyll wrth y gwaith celf rhyfeddol hwn; pryd bynnag yr oeddwn yn troi fy llygaid roedd yr olygfa yn cynhyrfu’r teimladau cynhesaf o edmygedd.” – George John Bennett, 1837

Ar ôl y 1940au, wrth i’r camlesi ddirywio fel rhwydwaith cludiant, fe ddechreuodd ymwelwyr ddefnyddio’r ddyfrffordd ar gyfer cychod pleser. Nawr mae cannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd, i deithio ar y gamlas mewn cychod, cerdded neu feicio neu i syllu ar yr henebion trawiadol a’r golygfeydd.

Tourists at the wharf
Dim ond cyfran o’r dros hanner miliwn o bobl sy’n dod i Safle Treftadaeth y Byd bob blwyddyn yw’r ymwelwyr hyn â’r lanfa yn Llangollen. Mae’r gamlas yn brysurach nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, gydag ymwelwyr a’r cannoedd o bobl a gyflogir yn y busnesau maent yn eu defnyddio. ©Eirian Evans (cc-by-sa/2.0)

Mae cychod pleser a gaiff eu tynnu gan geffylau ar gyfer teithiau i dwristiaid wedi bod yn boblogaidd yn Llangollen ers dros 140 mlynedd. Drwy deithio ar y darn cul o’r gamlas rhwng glanfa Llangollen a’r Chain Bridge Hotel, fe all ymwelwyr weld rhan o’r ddyfrffordd na all cychod eraill ei gyrraedd.

Twristiaeth Dyffryn Llangollen

Mae Dyffryn Llangollen a’r ardal o amgylch Dyfrbont Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd Camlas Llangollen yn berffaith ar gyfer gwyliau gweithgareddau cyffrous neu ar gyfer gwyliau hamddenol. Mae twristiaid yn parhau i dyrru i’r ardal i weld y golygfeydd syfrdanol.

Mwy O Wybodaeth Am Twristiaeth

Roedd rhyfeloedd yn golygu fod ‘Taith fawr’ yn Ewrop yn anodd i ymwelwyr o Brydain yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn nes at adref roedd y tirweddau rhyfeddol, yr adfeilion rhamantaidd, yr iaith a’r diwylliant hynafol yn golygu fod Cymru yn ddewis arall a oedd yn apelio’n fawr. Mae hwn sef ‘Golygfa yn Nyffryn Llangollen wrth ddod o’r Waun i Langollen’ gan John Warwick Smith, 1792.

Dyffryn Llangollen cyn y ddyfrbont Vale of Llangollen before the aqueduct
Dyffryn Llangollen cyn y ddyfrbont: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd Llangollen yn lleoliad poblogaidd i deithwyr. Fe ysgrifennodd Thomas Pennant yn 1773 nad oedd yn gwybod am “…unrhyw le yng Ngogledd Cymru lle y gall yr un sy’n caru golygfeydd deniadol, yr un teimladwy na’r un rhamantus, gael gwell boddhad o ran hyn.” Mae llun y dref yn llyfr Pennant yn pwysleisio’r dirwedd.

Pont Llangollen Bridge
Pont Llangollen: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn ferched bonheddig o Iwerddon a ddihangodd oddi wrth eu teuluoedd i ymgartrefu gyda’i gilydd yn Llangollen o 1780 hyd nes y bu’r ddwy farw yn 1829 a 1831. Fe fu awduron enwog, gwleidyddion ac aelodau o’r teulu brenhinol yn ymweld â’u cartref ym Mhlas Newydd. Mae’n parhau yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn y dref.

Plas Newydd
Plas Newydd ©John H Darch (cc-by-sa/2.0)

Daeth Butler a Ponsonby i gael eu hadnabod fel ‘Merched Llangollen’. Roeddent yn gwrthwynebu datblygiad diwydiannol neu unrhyw beth a fyddai’n difetha’r golygfeydd o amgylch eu cartref. Er hynny mae’n ymddangos na wrthwynebodd y ddwy y gamlas. Roedd y ddwy a gwesteion eraill a wahoddwyd yn teithio mewn cychod ar draws Dyfrbont Pontcysyllte pan gafodd ei hagor yn 1805.

Llun Merched Llangollen Ladies of Llangollen print
Llun Merched Llangollen: Wellcome Collection. Public Domain Mark

Fe adeiladwyd y Bont Gadwyn ar draws Afon Dyfrdwy ym Merwyn i gludo nwyddau rhwng y gamlas a’r ffordd a oedd yn eu cludo ymhellach i’r gorllewin. Wrth i’r bont ddod yn safle poblogaidd i ymwelwyr, cafodd tafarn fach ger y bont ei hehangu a’i throi’n westy, fel y gwelir yn y cerdyn post hwn o 1875.

Chain Bridge Hotel
Chain Bridge Hotel ©Amgueddfa Llangollen

Mae eisteddfod yn gystadleuaeth draddodiadol Gymreig yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a sefydlwyd yn 1947, yn croesawu tua 4,000 o gantorion, dawnswyr a cherddorion o bob cwr o’r byd bob haf. Maent yn denu dros 35,000 o ymwelwyr i’r dref. Fe adeiladwyd pafiliwn gwych ar dir yr Eisteddfod yn 1992, gerllaw’r gamlas.

Pafiliwn Llangollen Llangollen Pavilion
Pafiliwn Llangollen © Hawlfraint y Goron: CBHC

Y Royal Hotel oedd yn gyfrifol am y cwch pleser cyntaf a drefnwyd i deithio ar y gamlas yn Llangollen a hynny yn 1881, ac roedd y Capten Samuel Jones yn cynnal gwasanaethau rheolaidd. I ddechrau roedd y teithiau yn mynd i fyny’r gamlas i westy’r Chain Bridge Hotel. Yn ddiweddarach roedd teithiau hefyd yn cael eu cynnal i Drefor, Dyfrbont Pontcysyllte a chyn belled â’r Waun.

Capten Jones a’i gwch Captain Jones and boat
Capten Jones a’i gwch ©Amgueddfa Llangollen

Honnodd Capten Jones ei fod wedi hwylio o amgylch y byd cyn ymgartrefu yn Llangollen i gynnal y teithiau cwch pleser. Mae yna ychydig o amheuaeth ynglŷn â gwirionedd ei straeon ond roedd yn llwyddiannus iawn gyda’i fusnes. Roedd yn hysbysebu yn y papurau newydd lleol ac yn ysgrifennu cerddi am y dirwedd brydferth a welwyd o’i gychod.

Hysbyseb Capten Jones Captain Jones advertisement
Hysbyseb Capten Jones: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae cychod camlas a gaiff eu tynnu gan geffylau yn parhau yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn Llangollen. O’r lanfa maent yn teithio tuag at Raeadr y Bedol, ymhellach ar hyd y gamlas nac y gall cychod modur deithio. Pan fyddant yn dychwelyd ni all y cwch droi rownd, ond fe all y ceffyl a’r llywiwr newid o un pen i’r llall.

Cwch fodern yn cael ei thynnu gan geffyl Modern horse drawn boat
Cwch fodern yn cael ei thynnu gan geffyl ©Robin Drayton (cc-by-sa/2.0)

Yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fe fyddai pobl gyfoethog yn aml yn mynd ar deithiau o amgylch lleoedd diwydiannol. Roeddent eisiau gweld y prosesau gweithgynhyrchu, profi’r sŵn a’r perygl neu hyd yn oed wylio’r gweithwyr. Fe ymwelodd George Borrow â Chefn Mawr yn 1854 a gwelodd “….ddynion llychlyd yn gweithio yng nghanol y mwg a’r fflamau”.

Gwaith budr Dirty workers
Gwaith budr ©Amgueddfa Cymru

Hyd yn oed cyn iddynt gael eu gorffen roedd Dyfrbontydd y Waun a Phontcysyllte yn denu ymwelwyr. Yn 1802 fe ysgrifennodd Mary Ann Eade am y “…ddyfrbont anferthol sy’n cael ei hadeiladu dros Ddyffryn Llangollen o gamlas Ellesmere…fe fydd yn waith urddasol iawn, ar hyn o bryd mae mewn cyflwr anorffenedig iawn.” Fe baentiodd John Ingleby hwn tua’r un dyddiad.

Dyfrbont anorffenedig Unfinished aqueduct
Dyfrbont anorffenedig: Gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn fuan iawn roedd tywyswyr lleol yn Nyffryn Llangollen yn cynnwys Dyfrbont Pontcysyllte yn eu teithiau. Roedd ymwelwyr yn aml yn cofnodi uchder a hyd yr adeiledd, yn ogystal â’u hargraffiadau. Ysgrifennodd y gwyddonydd Michael Faraday mewn llythyr yn 1819 fod y ddyfrbont “..yn rhywbeth rhy fawreddog i’w basio ar frys.”

Michael Faraday
Michael Faraday: Trwy garedigrwydd Dibner Library. Public Domain

Fe ddenodd enwogrwydd y dyfrbontydd ymwelwyr rhyngwladol i’w gweld. Roedd y Tywysog Hermann von Pückler-Muskau o’r Almaen yn un o nifer i’w chymharu â henebion hynafol gan ddweud y “….byddai wedi dod â chlod i Rufain.” Fe alwodd Washington Irving, awdur Americanaidd ‘The Legend of Sleepy Hollow’, Ddyfrbont Pontcysyllte yn “…y gwaith aruthrol hwnnw”.

Washington Irving
Washington Irving: Trwy garedigrwydd University of Texas Libraries, The University of Texas at Austin

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd mynd ar gychod ar afonydd er mwyn pleser yn boblogaidd, er nad oedd hyn yn digwydd mor aml ar gamlesi. Fe adeiladodd teulu’r Edwards o Waith Brics J.C.Edwards yn Rhiwabon gartref ger y gamlas ym Mryn Howel. Mae bellach yn westy. Yn yr ardd roedd ganddynt dŷ cwch bach ar gyfer eu cwch rhwyfo.

Tŷ cwch J C Edwards Bryn Howel  JCE Bryn Howel boathouse
Tŷ cwch J C Edwards Bryn Howel © Hawlfraint y Goron: CBHC

Heddiw cychod sy’n eiddo preifat neu a gaiff eu llogi yw rhan helaethaf y drafnidiaeth ar y gamlas ac maent yn cynnal economi fawr o fusnesau cynhaliol. Mae yna fwy o gychod wedi eu cofrestru ar gamlesi Prydain nawr nac ar unrhyw adeg arall yn eu hanes. Ystyrir mai Camlas Llangollen yw’r gamlas deithiol fwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Cwch cul wedi’i llogi Hired narrowboat
Cwch cul wedi’i llogi: Trwy garedigrwydd Black Prince Narrowboat Holidays

Nid cychod culion yw’r unig gychod a welir ar y gamlas heddiw. Mae canŵau a chaiacau hefyd yn ffyrdd poblogaidd o fynd ar y dŵr. Maent yn dawel ac mae padlo’r rhain yn ymarfer da. I’r rhai hynny sy’n hoff o uchder mae gan gwmnïau gwyliau gweithgareddau grwpiau sydd wedi eu trefnu’n ddiogel sy’n croesi Dyfrbont Pontcysyllte gyda chanŵ.

Canŵau ar y ddyfrbont  on aqueduct
Canŵau ar y ddyfrbont ©Snapshooter46 CC BY-NC-SA 2.0

Roedd y llwybr tynnu yn cael ei ddefnyddio yn wreiddiol gan geffylau oedd yn tynnu’r cychod camlas, ond heddiw mae’r llwybr sydd bron yn wastad yn lle delfrydol i gadw’n heini neu ymlacio drwy gerdded, rhedeg neu feicio. Mae’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wedi llunio partneriaeth gyda Google Street View hyd yn oed fel y gallwch ‘gerdded’ ar hyd y llwybr ar-lein.

Beicio ar lwybr tynnu Cycling on towpath
Beicio ar lwybr tynnu ©Richard Croft (cc-by-sa/2.0)

Mae camlesi yn darparu llawer o gynefinoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt ac felly maent yn lleoedd gwych i weld adar, anifeiliaid a phlanhigion. Wrth gwrs mae yna bysgod yn aml mewn camlesi hefyd. Caniateir pysgota ar hyd y llwybr tynnu cyfan o fewn Safle Treftadaeth y Byd, ac mae trwyddedau ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Pysgota Fishing
Pysgota ©Canal & River Trust