Dogfennau

Telford Atlas
Cofnodion y gorffennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Pontydd

Plât rhif pont
Cynnal llif y traffig ar y gamlas a throsti. Mae’r pontydd ar draws Camlas Llangollen wedi’u rhifo mewn dau gyfeiriad, gan ddechrau o Gyffordd Frankton yn Swydd Amwythig. Mae’r rhifau sy’n dechrau ag ‘E’ yn mynd tua’r dwyrain a’r rhifau sy’n dechrau ag ‘W’ yn mynd tua’r gorllewin. Pont Cledrid yw man cychwyn y Safle Treftadaeth y Byd a’i rhif yw 19W. Y man terfyn yw Traphont Pont y Brenin yn Llantysilio sydd â’r rhif 49WA.

Gwaith brics

Former chapel near Trevor basin
Mae’r gamlas yn cyflenwi blociau adeiladu Prydain Fictoraidd. Enw’r clai sy’n cael ei ganfod yn ardal Rhiwabon, i’r gogledd a’r dwyrain o’r Gamlas yn Nhrefor, yw Etruria Marl. Fel mwyn haearn a thywodfaen yn yr ardal, mae cynnwys haearn uchel ynddo. Pan gaiff ei danio, mae’n troi yn liw coch cryf, yn debyg i nifer o’r adeiladau yn y pentrefi ger y gamlas.

Y Bont Gadwyn

Chain Bridge
Y bont gadwyn hynaf yn y byd sy’n dal i sefyll.

Glo

Shovel of coal
Y pŵer y tu ôl i’r Chwyldro Diwydiannol.

Bollt Dyfrbont

Replaced bolt from Pontcysyllte Aqueduct
Un o oddeutu 500 o nytiau a bolltau haearn gyr a ddisodlwyd wrth adnewyddu’r ddyfrbont yn 2003-4. Roedd y rhai newydd wedi’u gwneud o haearn wedi’i ailgylchu.

Odynau Calch

Froncysyllte East Limekiln Bank
Bu i’r gamlas agor marchnadoedd newydd i gynhyrchion lleol.