1795 survey map for Llangollen Canal

Tirfesur

Cynllunio a chreu llwybr drwy’r tirlun.

Disgrifiad

Cyn y gellir adeiladu camlas, mae’n rhaid cynllunio’r llwybr yn ofalus er mwyn gwneud ei ffordd drwy’r tirlun. Dyma waith y mapwyr. Mae angen iddyn nhw sicrhau fod y gamlas yn cyrraedd diwydiannau ac ardaloedd ble gall gefnogi mwyafrif y drafnidiaeth, ond gan gadw mor wastad â phosibl, drwy dirlun sy’n llawn o wrthrychau naturiol fel bryniau a dyffrynnoedd.

Bu John Duncombe a William Turner yn mapio llwybrau gwahanol i’w gamlas o’r afon Merswy i orllewin a dwyrain yr afon Dyfrdwy yng Nghaer, i mewn i Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Cafodd y ddau ddyn eu cyflogi wedyn i fapio’r llinell wrth i’r gamlas gael ei hadeiladu. Roedden nhw’n sicrhau fod y gweithwyr oedd yn adeiladu’r gamlas yn dilyn y llwybr a fwriadwyd ac yn adrodd am rwystrau ac anawsterau lleol y gallen nhw eu hwynebu.

1795 surveyor map of Llangollen Canal
Dyma fap o’r llwybr a fapiwyd ar gyfer y gamlas gan John Duncombe, a gyhoeddwyd ym 1795. Nid yw’n dangos manylion bryniau a dyffrynnoedd. Dim ond ambell dref bwysig a ffyrdd sy’n croesi a ddangosir, yn ogystal â’r prif afonydd. Nid oedd y gangen yn Llangollen ar y gweill tan ychydig flynyddoedd wedyn.

Ar ôl y mapwyr daeth byddin o lafurwyr, sef y nafis. Roedden nhw’n torri’r ffos yn y ddaear, codi’r argloddiau a gosod gwely’r gamlas. Wedyn daeth y seiri maen i adeiladu pontydd a thraphontydd, a gweithwyr briciau i leinio’r twnneli. Ffurfiwyd gweithlu parhaol wedyn i gynnal y gamlas. Mae eu gwaith yn parhau heddiw drwy’r miloedd o weithwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Gamlas a’r Afon.

Mae Grŵp Adfer Dyfrffyrdd yn rhan o’r Gymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol. Gwirfoddolwyr ydy nhw sy’n helpu i gadw nodweddion treftadaeth, gofalu am yr amgylchedd ac adfer rhai o’r hen gamlesi i gael eu defnyddio unwaith eto. Enw eu cylchgrawn i wirfoddolwyr a chefnogwyr yw ‘Navvies’ i gofio am y llafurwyr y maen nhw’n ymdrechu i gadw eu gwaith.

WRG volunteer canal camps

Mwy O Wybodaeth Am Tirfesur

Cafodd yr Arolwg Ordnans ei ffurfio’n wreiddiol ar gyfer creu mapiau milwrol. Cyhoeddwyd eu mapiau cyntaf ym 1801 ond ni chafwyd mapiau o Sir Ddinbych na Swydd Amwythig hyd 1840, felly roedd yn rhaid i beirianwyr y gamlas greu eu mapiau cywir eu hunain o’r tir. Mae’r map Arolwg Ordnans hwn yn dangos yr ardal o gwmpas Dyfrbont Pontcysyllte ym 1872.

Arolwg Ordnans  Ordnance Survey
Arolwg Ordnans: (cc-by-nc-sa/4.0)

Mae’r nodwydd cwmpawd bob amser yn pwyntio i’r gogledd magnetig. Mae gan gwmpawd mapiwr, sy’n ffurf gynnar o theodolit, ddau neu bedwar o olygon syth, a bydd y mapiwr yn eu halinio, er mwyn gweld pwynt ar y tirlun trwyddyn nhw. Mae deial o amgylch y cwmpawd yn darllen i ba gyfeiriad y maen nhw’n wynebu.

Cwmpawnd Compass
Cwmpawnd: Science Museum Group Collection ©The Board of Trustees of the Science Museum

Roedd cadw camlas ar uchder cyson yn lleihau’r gwaith o greu argloddiau a thoriadau neu i adeiladu dorau oedd yn gwastraffu dŵr. Mae mapwyr yn defnyddio offer o’r enw lefelau i gofnodi bod tirlun yn codi neu’n gostwng. Telesgop bychan ydy’r rhain gyda chroes-wifrau er mwyn gweld rhoden lefelu trwyddynt, a bydd wedi ei farcio gan fesuriadau uchder .

Lefel Level
Lefel: Science Museum Group Collection ©The Board of Trustees of the Science Museum

Mae theodolit yn cyfuno cwmpawd gyda thelesgop sy’n gallu symud yn llorweddol ac yn fertigol. Mae mapwyr yn ei ddefnyddio i nodi uchder a lleoliad gwrthrychau ar dirlun. Roedd yr offeryn hwn yn ddifais eithaf newydd yn y ddeunawfed ganrif. Byddai Duncombe a Turner wedi eu defnyddio ar gyfer gwaith mapio a pheirianneg llwybr y gamlas.

Theodolit Theodolite
Theodolit: Science Museum Group Collection ©The Board of Trustees of the Science Museum

Defnyddiwyd cadwyni mapio ar gyfer mesur pellter byr. Roedden nhw’n 66 troedfedd (20.12 metr) o hyd, ac yn cynnwys 100 dolen. Yng Nghymru a Lloegr, roedd milltir yn gyfystyr ag wyth deg o gadwyni. Newidiwyd y cadwyni am dapiau mesur dur yn y diwedd ond mae’r gair cadwynedd yn dal i gael ei ddefnyddio gan syrfewyr ar gyfer mesur pellter.

Cadwyni Chains
Cadwyni: Science Museum Group Collection ©The Board of Trustees of the Science Museum

Mesurwyd pellter hirach gan ddefnyddio olwyn syrfëwr, neu fesurydd ffordd. Mae’r olwyn ar ben draw handlen gyda chylchedd wedi ei fesur. Wrth i’r mapiwr gerdded ar hyd cynllun y llwybr, roedden nhw’n troi’r olwyn fesur. Cofnodwyd nifer y troadau ar gownter, gan roi gwybod iddyn nhw pa mor bell roedden nhw wedi teithio.

Olwyn fesur Measuring wheel
Olwyn fesur: Science Museum Group Collection ©The Board of Trustees of the Science Museum

Mae’r uchder a ddangosir ar fapiau Arolwg Ordnans yn dangos eu bod uwchben neu’n is na lefel y môr. Cânt eu dangos fel meincnodau, neu bwyntiau smotyn. Ble mae’r ffordd yn rhedeg yn wastad gyda’r gamlas yn y Galedryd, mesurir pwynt smotyn ar 94 metr uwchben lefel y mor, neu 310 troedfedd ar fapiau hŷn.

Lefel y môr Sea level
Lefel y môr: (cc-by-nc-sa/4.0)

Mae pwyntiau smotyn yn dangos uchder yn unig ar fapiau ond mae meincnodau wedi eu naddu i waliau neu adeiladau. Gosodir y ‘nod’ ar gyfer offeryn y mapiwr ar fan uchaf y marc, felly cymerir mesuriadau o uchder gwybyddus bob tro. Mae’r meincnod hwn ar Bont Rhos y Coed dros y gamlas yn Nhrefor.

Marciau mainc Bench marks
Marciau mainc ©Richard Law (cc-by-sa/2.0)

‘Navigators’ neu ‘Nafis’ yn fyr, oedd yr enw a roddwyd ar y gweithlu mawr o ddynion a gyflogwyd i ddilyn y mapwyr ac adeiladu’r camlesi. Heb beiriannau, roedd eu gwaith yn galed ond roedd y cyflog yn llawer gwell na chyflog gweithiwr amaethyddol. Roedd gan y Nafis enw am fod yn gryf iawn ond hefyd am eu hymddygiad swnllyd a’u hyfed.

Nafis – pwy oedden nhw, Navvies – who were they
Nafis – pwy oedden nhw ©National Maritime Museum, Greenwich, London

Pan oedd cyfnod adeiladu’r camlesi yn ei anterth, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, mae’n debyg fod tua 50,000 o ‘nafis’ ym Mhrydain. Roedd tua 500 yn gweithio ar y gamlas o Drefor i Langollen. Gallai criw o 25 o nafis dyllu tua milltir o gamlas y flwyddyn ar dir gwastad.

Faint o waith oedd nafis yn gorfod ei wneud How much work navvies had to do
Faint o waith oedd nafis yn gorfod ei wneud ©Amgueddfa Y Lanfa Powysland

Roedd nafis yn aml yn byw mewn gwersylloedd dros dro, yn agos at eu gwaith. Weithiau roedden nhw’n cael eu talu mewn tocynnau y gellid eu cyfnewid mewn siopau ‘tomi’ neu ‘tryc’ ac mewn ceginau bwyd yn y gwersylloedd. Cai’r rhain eu rhedeg gan y cyflogwyr a gallai hyn arwain at orfodi’r nafis i dalu prisiau uwch.

Gwersyll nafis a siopau tryciau Navvy camps and truck shops
Gwersyll nafis a siopau tryciau ©The Trustees of the British Museum

O’r 1840au, cyflogwyd dros 200,000 o nafis i adeiladu rheilffyrdd. Roedd hyd a dri deg y cant ohonynt yn Wyddelod. Dywedir fod Pont y Gwyddel a’r toriad dwfn ger Twnnel Whitehouses wedi eu henwi ar eu hôl. Mewn gwirionedd, roedd llawer llai na hynny o’r nafis yn Wyddelod. Pobl leol oedden nhw’n bennaf.

Pont y Gwyddel Irish Bridge
Pont y Gwyddel ©Roger Kidd (cc-by-sa/2.0)

Ar ôl y gwaith o adeiladu’r gamlas, roedd angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd. Roedd cwmnïau camlas yn cyflogi fforddolion, oedd yn gofalu am hyd penodol o’r llwybr lusgo, yn gwirio lefelau’r dŵr, torri llystyfiant a chadw golwg am doriadau neu orlifo. Yn aml, roedden nhw’n byw yn nhai’r cwmni ar hyd y gamlas, fel yr un yma yn Llanddyn.

Fforddolwyr  Lengthsmen
Fforddolwyr ©John Haynes (cc-by-sa/2.0)

Roedd y gweithlu oedd yn cynnal a chadw’r gamlas yn cynnwys seiri maen, gofaint, fforddolion a gweithwyr cyffredinol. Yn ogystal ag iardiau fel Trefor ac Ellesmere, roedd ganddyn nhw siediau cynnal a chadw ar hyd y llwybr llusgo, a rhai ohonyn nhw’n dal i gael eu defnyddio. Mae hwn ger bwthyn gweithiwr camlas ger Traphont Ddŵr y Waun.

Siediau cynnal a chadw Maintenance sheds
Siediau cynnal a chadw ©Humphrey Bolton (cc-by-sa/2.0)

Mae cyfuniad o sgiliau hyn a thechnoleg fodern yn helpu i gynnal y gamlas heddiw. Gall staff ddefnyddio ap ffôn, syn gysylltiedig â monitorau electronig, i fesur lefelau dŵr drwy’r dyfrffyrdd. Pe bai’r dechnoleg yn methu, maen nhw’n dal wedi eu hyfforddi i gymryd lefelau â llaw, gan ddefnyddio ffon fesur mewn mannau penodol.

Dipio Dipping
Dipio ©Andrew Deathe

Mae Ymddiriedolaeth y Gamlas a’r Afon yn gwario dros £200 miliwn y flwyddyn ar ei waith, a mwyafrif y gwaith hwnnw’n cynnal y camlesi a’r dyfrffyrdd mordwyol. Heddiw, mae staff cynnal a chadw a gwirfoddolwyr yn dilyn yn ôl troed y nafis a pheirianwyr y gorffennol, gan adfer a thrwsio’r camlesi i’w cadw ar agor i bawb.

Cynnal a chadw camlas modern Modern canal maintenance
Cynnal a chadw camlas modern ©Canal & River Trust