Cafodd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte effaith fawr ar yr ardal leol pan gawsant eu hadeiladu. Tyfodd diwydiannau yn ogystal â threfi a phentrefi a oedd yn gartref i’r gweithlu cynyddol. Mae’r gamlas yn dal i gael effaith heddiw gan ei bod yn rhan gynhenid o’r dirwedd hardd ac yn denu llawer o dwristiaid.
Cynllun Gweithgareddau
Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno ein gweithgareddau i helpu plant i ddysgu sut mae’r ardal o amgylch Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte wedi newid ers i’r gamlas gael ei hadeiladu.


Gwyliwch yr animeiddiad hwn i weld sut y datblygodd y gamlas a’r ardal leol dros amser.

Chwaraewch y gêm gardiau hon i weld faint yr ydych yn ei gofio o’r llinell amser.

Archwiliwch sut mae Cefn Mawr wedi newid dros amser.

Defnyddiwch ffynonellau hanesyddol i ganfod sut mae poblogaeth Froncysyllte wedi newid dros amser.

Archwiliwch sut mae un rhes o fythynnod wedi newid dros amser.

Crëwch gollage i ddangos sut mae’r tirwedd wedi newid dros amser.

Fersiwn llonydd o’r llinell amser i gyfeirio ati.