*family bike ride on Llangollen Canal

Trefor

Ar ochr ogleddol y dyfrbont

Ym mhentref bychan Trefor fe gewch hyd i Ganolfan Ymwelwyr Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte, ar ochr ogleddol y dyfrbont.

Yn gorwedd oddi ar yr A539 rhwng Llangollen a Wrecsam, mae gan bentref Trefor gymuned fach o dai, tafarn, ystafell de a siop. Tyfodd y pentref yn sgil y chwyldro diwydiannol, y gamlas a chodi Basn Trefor. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn mynd drwy’r pentref.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: LL14 3SG, dilynwch yr arwyddion brown i osgoi’r ffyrdd cul a serth.
Gorsaf reilffordd agosaf: Rhiwabon
Tref agosaf: Y Waun neu Langollen

Lleoliad

Trefor, Wrecsam LL20

Prif faes parcio

Talu ac arddangos