*Chirk Castle

Castell y Waun

Wedi'i adeiladu i'w amddiffyn, mae'r castell yn symbol o bŵer

Dyma gadarnle canoloesol gogoneddus y Gororau ond erbyn heddiw mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r adeilad yn brolio dros 700 mlynedd o hanes, gerddi sydd wedi ennill sawl gwobr, parcdir sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a gatiau haearn sy’n werth eu gweld – yn wir, mae’n atyniad gwerth chweil.

Darganfyddwch y casgliad o drysorau sydd ar gael a chadw, mwynhewch bicnic yn y gerddi hardd neu ewch am dro ar hyd llwybrau’r parcdir 480 erw.

Dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1295 ac am gannoedd o flynyddoedd roedd yn symbol o bŵer coron Lloegr yn y Gororau. Be waeth na’r castell hwn, yn sefyll yn falch ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ystod cyfnod cythryblus i’r Cymry?

Ymlaen â ni ychydig ganrifoedd, ac yn 1595 daeth Castell y Waun yn gartref i deulu Myddelton. Fe allwch chi fynd i mewn i’r ystafelloedd moethus a gweld yr addurniadau a’r casgliadau rhagorol o’r ddeunawfed ganrif, yn ogystal â llymder Tŵr Adam a daeargelloedd y castell! Mae yma hefyd gaffi yn y cwrt a siop i chi brynu rhywbeth neis i chi’ch hun.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Castell y Waun, LL14 5AF
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun

Lleoliad

Castell y Waun, LL14 5AF