*gledrid bridge

Pont y Galedryd

Y fynedfa i Safle Treftadaeth y Byd yn Swydd Amwythig

Mae Pont y Galedryd yn Swydd Amwythig a dyma fynedfa Safle Treftadaeth y Byd. Mae’n un o’r ychydig bontydd safonol ar y gamlas a wnaed â brics yn hytrach na cherrig gan nad oedd y gamlas wedi cyrraedd y cyflenwadau da o gerrig adeiladu oedd ar gael ymhellach ar hyd y gamlas.

Mae pob pont ar hyd Camlas Llangollen wedi’u rhifo, ac os ewch chi o dan fwa Pont y Galedryd fe welwch chi arwydd sy’n dweud 19W.

Mae’r bont oddi ar Ffordd y Waun, y tu allan i’r Galedryd.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes parcio cyhoeddus, LL14 5DG
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Pont y Galedryd, Shropshire, LL14 5DL