*cchirk viaduct and aqueduct

Traphont y Waun

Pensaernïaeth a pheirianneg syfrdanol

Wedi’i dylunio gan y peiriannydd Henry Robertson o’r Alban a’i chodi gan Thomas Brassey, agorwyd Traphont y Waun yn 1848. Fe allwch chi fynd ati ar droed a cherdded oddi tanni neu fe allwch chi gerdded ar draws llwybr tynnu Dyfrbont Ddŵr y Waun gerllaw.

Mae’r traphont yn oddeutu 260 metr (849 troedfedd) o hyd ac yn cynnwys deg bwa hanner crwn 14 metr (45 troedfedd) o led, gyda thri bwa arall yn disodli bwâu pren laminedig 37 metr (120 troedfedd) ar bob pen. Mae’n codi 30 metr (100 troedfedd) uwchben yr afon.

O ganol tref y Waun mae’r draphont yn dro 5 i 10 munud ar droed, ac mae’n werth ei gweld ac yn gyfle da i dynnu llun.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes Parcio Glyn Wylfa, LL14 5BS
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Maes Parcio Glyn Wylfa, LL14 5BS