*barge on chirk aqueduct

Dyfrbont Ddŵr a Thwnnel y Waun

Yn meddiannu’r ffin rhwng Cymru a Lloegr

Os ewch chi i Dyfrbont Ddŵr y Waun fe allwch chi sefyll yng Nghymru a Lloegr ar yr un pryd! Ychydig funudau ar droed o ganol tref y Waun mae’r dyfrbont ddŵr yn meddiannu’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn sefyll yn gymdeithasgar wrth ymyl Traphont y Waun. Mae edrych i lawr ar Fasn y Waun a’r dyfrbont ddŵr o’r ffordd yn olygfa anhygoel.

Cafodd y dyfrbont ddŵr ei chynllunio gan William Jessop a Thomas Telford a’i chodi rhwng 1796 ac 1801. Roedd y dyluniad yn arloesol: defnyddiwyd deg bwa hanner cylch carreg gwag a sianel ddŵr haearn gydag ochrau brics wedi’u selio gyda morter hydrolig i leihau’r pwysau.

Ar hyd y llwybr tynnu, Twnnel y Waun (a adnabyddir yn lleol fel ‘y Darkie’) oedd un o’r twneli cyntaf ym Mhrydain i gael llwybr tynnu ac fe’i adeiladwyd rhwng 1795 ac 1802. Ydych chi’n ddigon dewr i fynd drwy’r twnnel – cofiwch eich tortsh.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes Parcio Glyn Wylfa, LL14 5BS
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Maes Parcio Glyn Wylfa, LL14 5BS