*Trevor basin tuning fork

Basn Trefor

Cyfleuster angori a throi pwysig gyda hanes hynod ddiddorol

Wedi’i leoli ym mhentref bychan Trefor mae Basn Trefor yn angorfa a chyfleuster troi pwysig ar gamlas Llangollen. Dyma fan cychwyn poblogaidd ar gyfer gwyliau camlas neu drip undydd, yma fe gewch hyd i gyfleusterau hurio cychod preifat yn ogystal â dewis o gychod ar gyfer tripiau undydd ar y gamlas. Yma hefyd mae Canolfan Ymwelwyr Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte, lle cewch chi ddysgu mwy am hanes a threftadaeth gyfoethog y fro a Safle Treftadaeth y Byd.

Pwrpas gwreiddiol y basn oedd trawslwytho glo, cerrig adeiladu, mwynau, cynnyrch haearn a brics – llawer ohonyn nhw’n cael eu cludo at y lanfa mewn wagenni ceffyl ar hyd y dramffordd.

Mae’r maes parcio i ymwelwyr ar Stryt y Frenhines, ger Cefn Mawr, ac yn daith fer o Fasn Trefor. Mae’r maes parcio wrth ymyl y basn wedi’i neilltuo ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a thrwyddedau yn unig. Dilynwch yr arwyddion brown i osgoi’r ffyrdd cul a serth.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: LL14 3SG
Gorsaf reilffordd agosaf: Rhiwabon
Tref agosaf: Trefor

Lleoliad

Trevor Basin, Trevor, LL20 7TY

Prif faes parcio

Stryt y Frenhines, ger Cefn Mawr
Talu ac arddangos