*plas newydd llangollen

Plas Newydd

Yn cipio’r dychymyg ers y ddeunawfed ganrif

Yn cipio’r dychymyg ers y ddeunawfed ganrif, Plas Newydd yn Llangollen oedd cartref Merched Llangollen (y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby) o 1780 tan 1829. Roedd Eleanor a Sarah wedi gadael Iwerddon i ymgartrefu gyda’i gilydd. Wrth i hanes eu perthynas glos ledaenu drwy’r gymdeithas regentaidd, fe ddaethon nhw’n destun dathlu drwy’r wlad.

Bwthyn carreg pum ystafell oedd y tŷ gwreiddiol ond dros y blynyddoedd cafodd y tŷ ei estyn ac ychwanegwyd llawer o nodweddion gothig sydd i’w gweld hyd heddiw.

Saif Plas Newydd mewn gerddi tawel wedi’u hamgylchynu gan goed, ac yma hefyd y gwelwch chi fedyddfaen Abaty Glyn y Groes.

Defnyddiwyd y cylch meini ym Mhlas Newydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Heol y Bryn, Llangollen LL20 8AW
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Cyfleusterau

Caffi, Parcio, Toiledau

Lleoliad

Heol y Bryn, Llangollen LL20 8AW