*old railway line walk fingerpost

Taith yr Hen Reilffordd

Wedi’i chreu yn y 1860au ar gyfer y diwydiannau lleol, mae’r lein erbyn hyn yn daith gerdded ddwy filltir hamddenol

Mwynhewch y daith hamddenol hon yn Safle Treftadaeth y Byd hardd Dyffryn Dyfrdwy a Phontcysyllte, ar hyd yr hen reilffordd a’r gamlas yn Nhrefor, ger dyfrbont ddŵr anhygoel Pontcysyllte.

Wedi’i chreu yn y 1860au ar gyfer y diwydiannau lleol, mae’r lein erbyn hyn yn daith gerdded ddwy filltir hamddenol. Dechreuwch y daith ym mhen uchaf Ffordd yr Orsaf (dilynwch y mynegbyst). Mae’r llwybr yn rhan o’r Llwybr Milltiroedd Cymunedol. Cofiwch wisgo esgidiau addas a dillad glaw ar gyfer y daith fer hon.

Dadlwythwch daflen yr Taith yr Hen Reilffordd yma.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: LL14 3SG, dilynwch yr arwyddion brown i osgoi’r ffyrdd cul a serth.
Talu ac arddangos
Gorsaf reilffordd agosaf: Rhiwabon
Tref agosaf: Y Waun neu Langollen

Lleoliad

Station Road, Trefor, Wrecsam, LL14 3SY