*llantysilio church interior

Llandysilio-yn-Iâl

Da i gael picnic ac ymweld â Rhaeadr y Bedol.

Ar yr A5 ym mhen gorllewinol Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, mae Llandysilio-yn-Iâl yn bentref bychan gyda chysylltiadau ag Abaty Glyn y Groes a godwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Yn y fan hon y bu i Telford dapio afon Dyfrdwy i gael cyflenwad dŵr ar gyfer y gamlas. Mae Llandysilio-yn-Iâl yn lle da i gael picnic ac ymweld â Rhaeadr y Bedol. Mae Llandysilio-yn-Iâl hefyd yn lle poblogaidd gyda cherddwyr, sy’n mwynhau cerdded ar draws Fryniau Clwyd a’r golygfeydd dramatig o greigiau Eglwysig.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes Parcio Llandysilio-yn-Iâl, LL20 8BT
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Lleoliad

Llantysilio, Sir Ddinbych