*Chirk main street

Y Waun

Yn gymuned lewyrchus gyda hanes sy'n dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar ddeg

Yn gymuned lewyrchus gyda hanes sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar ddeg, mae’r Waun yn dref fechan Gymreig ar ffin Wrecsam a Swydd Amwythig. Dyma dref hygyrch mewn car (ar yr A5/ A483), ar drên (mae ganddi ei gorsaf reilffordd ei hun) ac ar fws o Wrecsam neu Groesoswallt.

Dechreuodd y Waun fel bwrdeistref ganoloesol gynlluniedig. Cyrhaeddodd y gamlas yn 1801 gan alluogi cludo glo i drefi yn Swydd Amwythig a Sir Drefaldwyn. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cafodd y ffordd drwy’r Waun ei gwella dan oruchwyliaeth Thomas Telford a daeth y dref yn fan aros ar y ffordd bost rhwng Caergybi a Llundain.

Heddiw, os crwydrwch chi drwy’r stryd fawr fechan fe ddowch chi ar draws nifer o siopau, bwytai, caffis a busnesau – a chroeso cynnes i’w gael ymhob un. O’r maes parcio yng nghanol y dref fe allwch chi gerdded i weld dyfrbont ddŵr a thraphont y Waun, sy’n sefyll yn gymdeithasgar gyda’i gilydd. Mae Castell y Waun, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn daith fer mewn car neu’n daith hirach ar droed.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes parcio’r Waun, Ffordd y Glofa, LL14 5DH
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Y Waun, Wrecsam LL14 5DH