*chirk bank bridge

Chirk Bank

Mae yna amrywiaeth o lwybrau cerdded, beicio a rhedeg wrth ymyl Chirk Bank

Mae pentref bychan Chirk Bank, dros y ffin yn Lloegr, yn gorwedd ar ffin Cymru / Lloegr o Safle Treftadaeth y Byd. Mae gan y bythynnod bach del sy’n un rhes ar hyd y llwybr tynnu, a godwyd yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr Tramffordd Glynceiriog a weithredwyd gan Undeb Amwythig o 1873 tan 1881, olygfeydd godidog o’r gamlas.

Mae’r bont yn Chirk Bank sy’n mynd dros y gamlas, sy’n mynd â chi tuag at Weston Rhyn, yn un diddorol dros ben gan fod y dec wedi’i godi ar drawstiau haearn bwrw crwm sy’n galluogi gosod wyneb y ffordd mor isel â phosibl. Hon oedd y ffordd dollborth wreiddiol, a gafodd ei disodli’n ddiweddarach gan Ffordd Caergybi Thomas Telford.

Yn ogystal â mwynhau taith hamddenol ar hyd y gamlas, mae yna amrywiaeth o lwybrau cerdded, beicio a rhedeg wrth ymyl Chirk Bank.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Parciwch yng Nglyn Wylfa yn y Waun (LL14 5BS) a cherddwch ar hyd y gamlas i Chirk Bank
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Chirk Bank, Shropshire, LL14 5DU