*whitehouse tunnel

Twnnel Whitehouses

Lywio drwy’r twnnel sy’n mynd â chi o dan draffig yr A5

Yn ddigon llydan i un cwch a chyda llwybr tynnu o un pen i’r llall, saif Twnnel Whitehouses rhwng Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte a’r Waun. Mae’r twnnel trawiadol yma’n 175 metr o hyd a chafodd ei godi rhwng 1795 ac 1802. Cafodd ei gynllunio gan Thomas Telford a William Jessop.

Bydd arnoch chi angen tortsh i lywio drwy’r twnnel sy’n mynd â chi o dan draffig yr A5. Mae’n dipyn o antur, felly cerddwch yn bwyllog a byddwch yn wyliadwrus o gerddwyr eraill – a chychod!

Lleoliad

Lleoliad

Chirk, Wrecsam, LL14 5AS