*valle crucis abbey

Abaty Glyn y Groes

Sefydlwyd Abaty Glyn y Groes yn 1201

Mae yma gyfoeth o hanes ac mae’r abaty yn sicr yn werth ei weld os ydych chi yn yr ardal. Sefydlwyd Abaty Glyn y Groes yn 1201 gan y Tywysog Madog ap Gruffydd a ‘mynachod gwyn’ Urdd y Sistersiad. Mae’r enw, Glyn y Groes, yn cyfeirio at golofn Eliseg gerllaw, a godwyd yn y nawfed ganrif.

Ond nid man addoli yn unig oedd Abaty Glyn y Groes. Am dair canrif gythryblus roedd yn gymuned weithgar a’i bywoliaeth yn dibynnu ar gyfres o ffermydd anghysbell a elwid yn faenorau.

Mae Abaty Glyn y Groes ger Llandysilio-yn-Iâl, nid nepell o Langollen.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: LL20 8DD, lle i 6 car
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Lleoliad

Abaty Glyn y Groes, Llangollen LL20 8DD