+pontcysyllte Aqueduct North Wales

Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte

Un o gampweithiau mwyaf rhyfeddol peirianneg y chwyldro diwydiannol

Un o gampweithiau mwyaf rhyfeddol peirianneg y chwyldro diwydiannol, a thrysor mwyaf Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, ydi Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte.

Mae Pontcysyllte (y bont sy’n cysylltu) yn cludo’r gamlas yn ogoneddus dros afon Dyfrdwy islaw.

Wedi’i chynllunio gan Thomas Telford a William Jessop, a’i chodi gan John Simpson (gwaith cerrig) a William Hazledine (gwaith haearn), cafodd y dyfrbont ddŵr ei chwblhau yn 1805 ac mae hi’n cynnwys datrysiadau peirianneg sifil beiddgar ac arloesol: cafn haearn bwrw 126 troedfedd uwchben yr afon; asennau cynnal bwaog haearn; ac 18 o golofnau carreg gwag.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Un maes parcio oddi ar Ffordd yr Orsaf ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a thrwyddedau yn unig (LL20 7TY).
Mae’r prif faes parcio ar Stryt y Frenhines (LL14 3SG) ger Cefn Mawr.
Gorsaf reilffordd agosaf: Rhiwabon
Tref agosaf: Y Waun neu Langollen

Lleoliad

Station Rd, Basn Trefor, Wrecsam LL20 7TG