*Historic Llangollen Bridge

Llangollen

Y dref brydferth yng nghanol Dyfrbont Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd Camlas

Ar yr A5 ar lannau afon Dyfrdwy mae tref ddarluniadwy Llangollen yn gorwedd yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Dan gysgod Castell Dinas Brân uwchlaw mae’r dref yn gartref i gamlas Llangollen yn ogystal ag afon fyrlymus Dyfrdwy – afon wych ar gyfer canŵio a chaiacio.

Fe allwch chi fwynhau taith hamddenol ar lan yr afon, lle clywch chi synau hiraethus Rheilffordd Stêm Llangollen yn y pellter. Os ydych chi’n dod yma yn yr haf, mae llwybr glan yr afon yn lle gwych i gael picnic. Ewch i fyny tuag at Lanfa Llangollen i weld y cychod camlas a dynnir gan geffylau – golygfa na ddylech chi ei cholli.

Yn Llangollen fe gewch chi siopau, bwytai a chaffis, yn ogystal â dewis da o westai, lleoliadau gwely a brecwast a mannau gwersylla. Felly pa un ai ydych chi’n gerddwr brwd neu’n deulu ifanc, yn chwilio am rywle i fwyta neu i fynd am ddiwrnod bach allan, mae Llangollen yn ddewis da.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Meysydd parcio Llangollen:
Y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8SW
Maes Parcio Heol y Farchnad, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8PS
Maes Parcio Stryd y Dwyrain, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RB
Maes Parcio Stryd y Felin, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RQ
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Lleoliad

Canolfan Groeso Llangollen, Y Capel, Castle St, Llangollen LL20 8NU