*Llangollen Tourist Information Centre

Canolfan Groeso Llangollen

Croeso cynnes i Llangollen a Dyfrbont Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd Camlas

Mae Canolfan Groeso Llangollen ar Heol y Castell. Mae’r ganolfan yn darparu gwybodaeth am atyniadau, llety a digwyddiadau lleol, yn ogystal â gwasanaeth archebu.

Os oes arnoch chi angen anrheg unigryw, anarferol a lleol, yna rydych chi wedi dod i’r lle perffaith. Mae gan y ganolfan amrywiaeth o grefftau ac anrhegion wedi’u gwneud gan artistiaid a chynhyrchwyr lleol, yn ogystal â chofroddion Cymreig, a chroeso cynnes wrth gwrs.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Meysydd parcio Llangollen:
Y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8SW
Maes Parcio Heol y Farchnad, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8PS
Maes Parcio Stryd y Dwyrain, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RB
Maes Parcio Stryd y Felin, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RQ
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Lleoliad

Y Capel, Castle St, Llangollen LL20 8NU