*steam train at llangollen railway

Rheilffordd Llangollen

10 milltir o reilffordd treftadaeth olygfaol

Fedrwch chi ddim ymweld â Llangollen heb fynd i weld Rheilffordd Llangollen. Pa un ai ydych chi’n sefyll ar Bont Dyfrdwy ac yn gwylio’r trenau stêm yn mynd a dod, yn crwydro ar y platfform a chael paned o de neu’n penderfynu prynu tocyn a mwynhau taith ddeng munud i fyny’r afon, gan ddilyn afon Dyfrdwy y rhan fwyaf o’r daith i Gorwen. Mae’r golygfeydd yn syfrdanol. Ar hyd y lein fe ddowch chi at Orsafoedd Llangollen, y Berwyn, Glyndyfrdwy, Carrog a Chorwen – pob un â dyluniad traddodiadol Fictoraidd.

Agorwyd Rheilffordd Treftadaeth Llangollen yn 1975 gan grŵp o selogion a welodd y potensial ar gyfer lein dreftadaeth a golygfaol drwy Ddyffryn Dyfrdwy. Tyfodd eu gweledigaeth wreiddiol i’r hyn a welwch chi heddiw. Caewyd yr hen brif lein o Riwabon i Abermo i deithwyr yn 1965, ac i nwyddau yn 1968.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Meysydd parcio Llangollen:
Y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8SW
Maes Parcio Heol y Farchnad, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8PS
Maes Parcio Stryd y Dwyrain, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8RB
Maes Parcio Stryd y Felin, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8RQ
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Rhiwabon
Tref agosaf: Llangollen

Cyfleusterau

Caffi, Toiledau

Lleoliad

The Station, Abbey Road, Llangollen, LL20 8SN