*horseshoe falls

Rhaeadr y Bedol

Mae’r campwaith peirianneg hwn gan Thomas Telford

Ar afon Dyfrdwy ger Llandysilio-yn-Iâl, mae’r campwaith peirianneg hwn gan Thomas Telford yn nodi dechrau Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen. Dyluniodd y gored i dynnu dŵr o afon Dyfrdwy ar gyfer y gamlas, ond daeth yn ychwanegiad hardd i’r dirwedd. Yn 460 troedfedd (140 metr) o hyd, mae’n olygfa gwerth ei gweld.

Dyma daith 3km o Langollen neu fe allwch chi fynd ar y trên stêm o orsaf Llangollen os yw’r amserlen yn caniatáu. Dewch oddi ar y trên yng Ngorsaf y Berwyn ac, ymhen 10 munud, mi fyddwch chi’n gallu mwynhau’r olygfa ysblennydd sydd yn eich aros yn Rhaeadr y Bedol.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes Parcio Llandysilio-yn-Iâl, LL20 8BT
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Cyfleusterau

Parcio

Lleoliad

Rhaeadr y Bedol, LL20 8BS