*froncysyllte community centre

Froncysyllte

Cymuned sydd â hanes diwydiannol cyfoethog.

Gorweddai Froncysyllte, neu’r Fron, ar lannau afon Dyfrdwy a Chamlas Llangollen ar briffordd yr A4 rhwng y Waun a Llangollen. Mae’r enw yn deillio o’r gair ‘fron’, sy’n golygu bryn neu lethr, a ‘Cysyllte’ – un o’r hen dreflannau ym mhlwyf Llangollen.

Mae pentref Froncysyllte wedi’i leoli ar dirwedd ffermio Dyffryn Llangollen, ond datblygwyd y pentref fel anheddiad o fythynnod ar gyfer gweithwyr y chwarel, odynau calch, gwaith brics a theils yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y pentref ar frig calchfaen islaw nifer o chwareli. Er bod diwydiannau traddodiadol yr ardal wedi diflannu bellach, mae cyfoeth o archaeoleg ddiwydiannol yn parhau yn yr ardal.

Ewch am dro at y bont o’r ddeunawfed ganrif, lle cewch olygfeydd godidog o Dyfrbont Ddŵr Pontcysyllte – cofiwch fynd â’ch camera efo chi.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Canolfan Gymunedol Froncysyllte, LL20 7RB
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Froncysyllte, Wrecsam