*Panorama of Dinas

Castell Dinas Brân

Mae taith gerdded werth chweil i adfeilion dramatig y castell a golygfeydd godidog

Ychydig sy’n weddill o’r hyn a fu unwaith yn gaer wych ond mae’r adfeilion dramatig yn sefyll yn goron ar y bryn uwchlaw Llangollen o hyd. Mae’r golygfeydd ysblennydd oddi yno yn wobr fawr am yr ymdrech sydd ei angen i ddringo’r llwybr serth i fyny.

Codwyd y cadarnle mawreddog hwn yn y 1260au gan y tywysog lleol, Gruffudd ap Madog, ar safle bryngaer cynhanesyddol. Ni chafodd y cadarnle oes hir iawn; cafodd ei losgi yn 1277 gan y Cymry a oedd yn wynebu ymosodiad gan y Saeson. Cafodd ei feddiannu am ychydig gan luoedd Lloegr, ond cafodd ei adael yn fuan wedi 1282.

Ers hynny mae wedi bod yn ganolbwynt sawl chwedl, gan atynnu llawer o ymwelwyr anturus. Mae yna lwybr gydag arwyddion o’r gamlas yn Llangollen.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Meysydd parcio Llangollen:
Y Pafiliwn Cydwladol Brenhinol, Llangollen – talu ac arddangos, LL20 8SW
Maes Parcio Heol y Farchnad, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8PS
Maes Parcio Stryd y Dwyrain, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RB
Maes Parcio Stryd y Felin, Llangollen - talu ac arddangos, LL20 8RQ
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Lleoliad

Castell Dinas Brân, Llangollen, Sir Ddinbych