*Gorsaf Berwyn Station

Gorsaf y Berwyn

Mae’r dyluniad yn anarferol oherwydd y tir cul oedd ar gael

Mae Gorsaf y Berwyn, neu’r ‘orsaf yn y ceunant’ wedi’i lleoli rhwng yr A5 ac afon Dyfrdwy. Mae’r dyluniad yn anarferol oherwydd y tir cul oedd ar gael pan godwyd yr orsaf yn y 1860au.

Mae Rheilffordd Treftadaeth Llangollen yn stopio yng Ngorsaf y Berwyn, lle fedrwch chi ddod i ffwrdd ac, os yw’r orsaf â chriw, fynd i weld yr ystafell aros a’r swyddfa archebu adferedig a phrynu lluniaeth ysgafn. Wedi taith fer fe ddowch chi at y Bont Gadwyn a Rhaeadr y Bedol, ac fe allwch chi gerdded yn ôl i Langollen mewn hanner awr.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes Parcio Llandysilio-yn-Iâl, LL20 8BT
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen

Cyfleusterau

Caffi

Lleoliad

Gorsaf y Berwyn, Sir Ddinbych