*St Mary's church in Chirk

Eglwys y Santes Fair, y Waun

Bydd ymweld yma yn eich gwobrwyo â chelf ac arteffactau hanesyddol

Saif Eglwys y Santes Fair yng nghanol y dref, ym mhen deheuol y Waun.

Mae’r eglwys yn adeilad trawiadol iawn ac yn adeilad rhestredig Gradd 1. Mae’r eglwys a welwch chi heddiw yn dyddio’n ôl yn bennaf i’r bymthegfed ganrif ond mae yna ychydig o olion adeilad cynharach. Mae ganddi gasgliad rhyfeddol o gofebion deunawfed ganrif y teulu Myddelton, cyn-berchnogion Castell y Waun, a Theulu Trefor, yr hen brif dirfeddianwyr lleol. Y tu mewn i’r eglwys fe welwch chi gerfiadau to wedi’u hadfer a’u peintio o adeiladau ac anifeiliaid rhyfedd yr olwg a nifer o enghreifftiau o arfau herodrol.

Hyd at ddiwedd y bymthegfed ganrif neu ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg roedd yr eglwys wedi’i chysegru i Sant Tysilio, cyn ei newid i’r Santes Fair. Cofiwch wirio’r amserau agor cyn ymweld.

Lleoliad

Maes parcio agosaf a chod post: Maes parcio’r Waun, Ffordd y Glofa, LL14 5DH
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun
Tref agosaf: Y Waun

Lleoliad

Eglwys y Santes Fair, y Waun, LL14 5DH