
Yn hygyrch ar droed ac wedi’i hadfer a’i hailagor i’r cyhoedd yn 2015, mae’r Bont Gadwyn yn werth ei gweld.
Wedi’i chodi yn 1817 gan entrepreneur lleol o’r enw Exuperiur Pickering, i gludo glo a chalchfaen i’r A5 a phen uchaf Dyffryn Dyfrdwy, roedd y bont yn gyswllt cryf rhwng Rheilffordd Llangollen a’r gamlas ac yn ffordd berffaith i groesi afon Dyfrdwy. I fynd at y bont dewch oddi ar y trên yng Ngorsaf y Berwyn neu cerddwch ar hyd y gamlas o Langollen. Unwaith eto, cofiwch fynd â’ch camera efo chi i’r Safle Treftadaeth y Byd hwn.
Lleoliad
Maes parcio agosaf a chod post: Maes Parcio Llandysilio-yn-Iâl, LL20 8BT
Gorsaf reilffordd agosaf: Y Waun neu Riwabon
Tref agosaf: Llangollen
Lleoliad
Y Bont Gadwyn, Llangollen, LL20 8BS