Dyddiadau cau Dyfrbont Pontcysyllte a’r llwybr tynnu

Temporary Aqueduct closure

Gwisgwch eich esgidiau cerdded, dewch â’r teulu ynghyd ac ewch am dro dros Ddyfrbont Pontcysyllte dros gyfnod y Nadolig, cyn iddi gau dros dro yn y flwyddyn newydd.

O ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024, bydd y ddyfrbont ar gau i gychod a bydd y llwybr tynnu hefyd ar gau i gerddwyr. Bydd y Ddyfrbont a’r llwybr tynnu yn ailagor ddydd Sadwrn 16 Mawrth 2024. Mae hyn oherwydd bod y ddyfrbont yn cael ei gwagio (y dŵr yn cael ei bwmpio ohoni) am archwiliad sy’n digwydd o dro i dro. Wrth gwrs, bydd digon o’r llwybr hardd 11 milltir o hyd i’w archwilio yn y Waun, Llangollen a Rhaeadr y Bedol.