Gwasanaeth bws poblogaidd â golygfeydd yn dychwelyd i Ddyffryn Dyfrdwy

Picturesque bus service returns

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg eto eleni i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchol sy’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol, gan gynnwys Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Fe fydd y gwasanaeth camu ymlaen a chamu i ffwrdd yn galluogi i deithwyr ymweld â’r atyniadau allweddol hyn heb fod angen car, gan ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar deithio i’r lleoedd yma. Bydd yn helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r tocyn dydd 1Bws yn werthfawr i’r rhai sydd am fynd ar daith gerdded dywys o’r ardal, ac eleni bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig taliadau i neidio ymlaen ac i ffwrdd ar gyfer teithiau sengl byrrach, gan ei wneud yn opsiwn delfrydol ar gyfer darganfod rhai o deithiau cerdded llinellol yr ardal.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ar ddyddiau Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 30 Mawrth tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2024. I weld yr amserlen lawn a phrisiau tocynnau, ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, tudalen we amserlen bysiau Sir Ddinbych, neu codwch daflen o Ganolfan Groeso Llangollen.

.