Paneli Dehongli newydd ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd

Paneli Dehongli newydd.

Mae cyfres o baneli dehongli newydd wedi’u gosod ar hyd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen, fel rhan o brosiect i ymgysylltu pobl â threftadaeth gyfoethog yr ardal.

Mae prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Glandŵr Cymru i ddatblygu’r byrddau dehongli.

Mae’n archwilio campau peirianneg a dylunio a arweiniodd at ddynodi’r safle’n Safle Treftadaeth y Byd yn 2009, ac mae’n adrodd hanes rhai o’r peirianwyr, artistiaid, twristiaid, entrepreneuriaid ac adeiladwyr camlesi arloesol sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd dros y canrifoedd.

Mae’r paneli dehongli, a gynhyrchwyd gan VisitMôr, wedi’u gosod ar wyth safle allweddol ar draws 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnwys Pont Gledrid, Traphont Ddŵr y Waun, Froncysyllte, Basn Trefor a Llangollen, a bydd yn helpu i roi teimlad o le i ymwelwyr, gan rannu hanesion o arwyddocâd lleol.

Dyma gam cyntaf byrddau dehongli newydd, a chaiff paneli pellach eu disodli ar hyd y gamlas rhwng Glanfa Llangollen a Rhaeadr y Bedol yr haf hwn.

Dywedodd Hannah Marubbi, Rheolwr Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Mae gymaint o leoedd arbennig ar hyd 11 milltir Safle Treftadaeth y Byd, o Raeadr y Bedol, Glanfa Llangollen, y Waun a Gledrid, yn ogystal â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte ei hun. Mae’r prosiect hwn wedi canolbwyntio ar adrodd hanes y lleoedd hyn ac annog pobl i archwilio’r safle cyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae cyfoeth o hanes a diwylliant yn yr ardal hyfryd hon ac rwy’n falch o’i weld yn cael ei gydnabod trwy’r gwaith partneriaeth arbennig hwn.