Golygfa o gastell Dinas Brân yn edrych i lawr Dyffryn Dyfrdwy / A view from Dinas Brân castle looking down the Dee Valley

Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau i gefn gwlad dros y Pasg

Cynlluniwch ymlaen llaw y Pasg hwn

Mae Cyngor Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau dros y Pasg i fannau harddwch cefn gwlad y sir.

Wrth i wyliau’r Pasg agosáu, fe ddylai pobl wirio ymlaen llaw i weld os yw cyfleusterau ar agor a phan fo’n bosibl mynd i safleoedd ac ar deithiau tawelach gan y bydd hyn yn helpu i osgoi cyfnodau prysur a phroblemau parcio.

Mae nifer fawr o fannau harddwch yng nghefn gwlad wedi dod yn boblogaidd ers i bobl orfod aros yn lleol yn ystod y pandemig, ac anogir gyrwyr i fod yn ystyriol i ddod o hyd i ardaloedd addas i barcio neu ddefnyddio cludiant amgen i gyrraedd safleoedd er mwyn peidio ag ymyrryd â llwybrau amgylchynol i’r ardaloedd.

Hefyd anogir ymwelwyr i barchu cefn gwlad a bod yn synhwyrol drwy barcio’n gyfrifol, peidio â thaflu sbwriel a beicio ar lwybrau awdurdodedig yn unig.

Os fydd y tywydd yn braf dros y cyfnod, ni ddylai pobl gael barbeciw, stofiau gwersylla neu danau ar ardaloedd rhostir yr AHNE oherwydd y perygl sylweddol o dân.

Hefyd mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa am bwysigrwydd bod yn gyfrifol a chadw eu cŵn ar dennyn wrth gerdded yng nghefn gwlad o amgylch da byw wrth i dymor yr wyna barhau

I gael rhagor o wybodaeth ar gynllunio ch taith ymlaen llaw, ewch ihttps://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/?lang=cy  a dilynwch AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar Facebook a Twitter.

Golygfa o gastell Dinas Brân yn edrych i lawr Dyffryn Dyfrdwy / A view from Dinas Brân castle looking down the Dee Valley