Cymerwch Lun Unigryw o Ddyfrbont Pontcysyllte

New fixed point camera.

Mae tri chamera ‘pwynt sefydlog’ hen ffasiwn eu steil wedi’u gosod ar draws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinesydd i gofnodi’r dirwedd sy’n newid

Mae camerâu yn Nyfrbont Pontcysyllte, Parc Gwledig Loggerheads a hen reilffordd Prestatyn i Ddiserth ac mae camerâu sy’n hygyrch i bawb yn rhai o’n lleoliadau mwyaf prydferth.  Trwy gymryd llun drwy’r camerâu yma a’u llwytho i Instagram (gyda #CRDV_AONB fel tag ar gyfer eich llun) byddwch yn ychwanegu at  set data cynyddol ar-lein o luniau sy’n cyfleu’r newidiadau tymhorol, rheoli tir a hinsawdd y tirlun eithriadol hwn.

Dyfrbont Pontcysyllte yw un o’r tirnodau mwyaf eiconig lle tynnir y nifer fwyaf o luniau ohono yng Nghymru, felly mae’r ffaith fod AHNE wedi gosod camerâu o dan y ddyfrbont, i alluogi ongl wahanol i ymwelwyr dynnu llun o’r strwythur a’r tirlun yn real. Trwy leoli’r camera yng Nghoed Jeffrey oddi tanodd, caiff ymwelwyr eu hannog i dreulio mwy amser yn crwydro ar hyd y llwybr sydd yn arwain at Barc Gwledig Tŷ Mawr yn rhan o un o’r teithiau cerdded cylchol o amgylch ein Safle Treftadaeth y Byd.

I weld y lluniau sydd wedi’u cymryd yn y safle yma ac ar draws AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, defnyddiwch yr hashnod #CRDV_AONB ar Instagram, neu dilynwch y ddolen hon.